Ymchwilio
a Dylunio

Fel tîm o beirianwyr, gwyddonwyr
a chlinigwyr sy’n arwain y diwydiant,
rydym yn gyfrifol am ysgogi arloesi
a datblygiadau mawr ym maes
meddygaeth trwy ddylunio a
datblygu technolegau newydd.

Rydym yn datblygu offer meddalwedd trwy gyfuno cyfrifiadureg, ystadegau, mathemateg, a pheirianneg i ddadansoddi a dehongli data technoleg iechyd, ac mae gennym ddealltwriaeth gysyniadol gref o’r technolegau sy’n sail i ddeallusrwydd artiffisial fel dysgu peirianyddol, dysgu dwfn, rhwydweithiau niwral ac algorithmau.

Gall ein tîm Ymchwilio a Dylunio
eich cynorthwyo trwy
:

  • ddarparu un pwynt mynediad at wasanaethau clinigol i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr
  • gwerthusiad byd go iawn o fynediad i’r GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol gan gynnwys economeg iechyd
  • rheoli’r llwybr arloesi cyfan – o angen cynnar heb ei ddiwallu, dylunio cysyniadau, prototeipio, profi clinigol i werthusiadau gwasanaethau byd go iawn
  • troi cynhyrchion mwy sefydledig a thechnolegau meddygol arloesol yn ecosystem glinigol byd go iawn
  • cymorth ymgynghori a rheoleiddio arbenigol
  • dull gofal iechyd sy’n seiliedig ar ganlyniadau
  • datblygu ceisiadau grant
  • dylunio a rheoli treialon clinigol cyflym, effeithiol ac integredig
  • rheoli ymchwil a gwerthuso aml-safle ‘ONE SITE WALES’.