Yma yn Sefydliad TriTech, rydym yn cefnogi datblygiad atebion gofal iechyd ar lefel leol, genedlaethol, a byd-eang gan gynnig un pwynt mynediad at y GIG i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr trwy ddull cydweithredol a hyblyg.

Mae Sefydliad TriTech yn dîm o beirianwyr, gwyddonwyr, ymchwilwyr, technolegwyr digidol a chlinigwyr sy’n ei gwneud hi’n haws datblygu, profi, a gwerthuso technolegau arloesol i wella eu hyfywedd, gan gynnwys eu cyfraniad at ganlyniadau cleifion, ac sy’n cefnogi cwmnïau i ffynnu a chreu swyddi o ansawdd uchel a thwf.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd, fel rhan o  Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, er mwyn:

  1. Cefnogi gwerthusiadau ac ymchwiliadau clinigol i dechnolegau meddygol arloesol, gan arwain at well gofal i gleifion;
  2. Darparu un pwynt mynediad at wasanaethau clinigol i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr technoleg feddygol;
  3. Cyfuno sgiliau dylunio clinigol ac ymchwil â phrofiad o beirianneg dechnegol i reoli’r llwybr arloesi cyfan, o angen cynnar nas diwallwyd, dylunio cysyniad, prototeipio, a phrofi clinigol hyd at werthuso gwasanaethau sefydledig gan ddefnyddio dull gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth;
  4. Cyflwyno a phrofi cynhyrchion mwy sefydledig a thechnolegau meddygol arloesol i systemau clinigol go iawn;
  5. Darparu cyngor rheoleiddiol a llwybr i gynllunio’r farchnad;
  6. Cefnogi twf economaidd a buddsoddiad rhanbarthol/y DU.