Ein tîm

Mae ein tîm o wyddonwyr, clinigwyr
a pheirianwyr arloesol yn darparu gwasanaeth
cyflym ac effeithlon i sicrhau bod eich
cynnyrch yn barod ar gyfer y farchnad
i’r GIG.

  • Yr Athro Leighton Phillips

    Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau, Prifysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Yr Athro Leighton Phillips yw Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae’n goruchwylio portffolio ymchwil sylweddol – gan gynnwys cefnogi diwydiant wrth ddatblygu technolegau a dyfeisiau newydd. Cyn ymuno â’r Bwrdd Iechyd, roedd Leighton yn gweithio yn y sector SAU a’r uwch wasanaeth sifil.

  • Yr Athro Chris Hopkins

    Pennaeth TriTech ac Arloesedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Mae Chris Hopkins yn Athro er Anrhydedd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru, yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth TriTech ac Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Chris yn Beiriannydd Siartredig gyda’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, yn Gymrawd ac asesydd gwyddonol allanol gyda’r Academy for Healthcare Science, yn arholwr Asesiad Annibynnol o Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion dyfeisiau meddygol.

    Mae wedi ysgrifennu papurau amrywiol ac yn gydweithredwr ar sawl prosiect ymchwil parhaus. Gan weithio gyda phrifysgolion lleol a chwmnïau technoleg feddygol, mae ganddo dros 24 mlynedd o brofiad yn y GIG. Mae diddordeb ymchwil Chris ym maes deallusrwydd artiffisial – gyda phwyslais penodol ar systemau gofal iechyd, ac mae’n goruchwylio nifer o brosiectau doethuriaeth ar hyn o bryd.

  • Yr Athro Keir Lewis

    TriTech ac Arloesedd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Mae Keir Lewis yn Athro Meddygaeth Anadlol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arweinydd clinigol ar gyfer TriTech, Arloesedd a’r Gwasanaethau Anadlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y DU. Mae Keir yn aelod o bwyllgorau a thasgluoedd ymchwil amrywiol mewn Cymdeithasau Thorasig ym Mhrydain ac Ewrop ac yn Arweinydd Arbenigedd Meddygaeth Anadlol dros Gymru ar Rwydwaith Ymchwil Glinigol y DU.

    Keir yw Cyfarwyddwr Meddygol Arloesedd Anadlol Cymru ac mae’n Brif Ymchwilydd neu’n gydweithredwr ar sawl treial yn y DU ar glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, rhoi’r gorau i smygu ac yn fwy diweddar, COVID. Mae wedi darlithio ledled y byd, wedi cyhoeddi dros 90 o bapurau a 3 gwerslyfr ac wedi cynghori Llywodraethau amrywiol, NICE a’r HTA ar dechnolegau, rhoi’r gorau i smygu a chlefydau cronig.

    Ar ôl ymuno â’r GIG gyda phrifysgolion lleol a chwmnïau biofeddygol / biodechnegol, mae wedi helpu i ddenu dros £22 miliwn o gyllid ac wedi ennill gwobrau cenedlaethol gan gynnwys “Arloesedd yn y GIG”, “Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd” a “Cydweithredu â Diwydiant Cenedlaethol”. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol mewn dau gwmni ac yn Gyd-sylfaenydd a Chadeirydd yr elusen WORLD.

  • Dr Matthew Lawrence

    Dirprwy Bennaeth TriTech ac Arloesedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Dr Matthew Lawrence yw Dirprwy Bennaeth TriTech ac Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y DU. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ymchwil meddygol. Y maes y mae Matthew wedi canolbwyntio arno fwyaf yn ystod ei yrfa ymchwil fu troi gwybodaeth a dealltwriaeth dechnegol o feysydd peirianneg a’r gwyddorau ffisegol yn arloesedd technoleg gofal iechyd.

    Yn rhan o’i waith ymchwil, mae Matthew wedi gweithio mewn amgylchedd clinigol – gan bontio’r bwlch rhwng iechyd, gwyddoniaeth, a pheirianneg. Canolbwyntiodd ei brif waith ymchwil ar ddatblygu technolegau newydd ar gyfer mesur haemostasis a llif gwaed o ran iechyd a chlefydau, yn arbennig yng nghyswllt sut mae nodweddion ceulo yn cael eu newid gan driniaeth a datblygiad clefyd llid fasgwlaidd. O ganlyniad, mae wedi ysgrifennu amrywiaeth eang o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid ar sawl gwahanol gyflwr clefyd.

    Yn ystod ei yrfa, mae Matthew wedi datblygu arbenigedd mewn dylunio astudiaethau, rheoli prosiectau a dadansoddi ystadegol. Hefyd, mae wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o’r prosesau rheoleiddio a llywodraethu ym maes ymchwil iechyd yn y DU ac ef yw Cadeirydd presennol pwyllgor moeseg ymchwil Cymru REC 6 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

  • Mr Peter Jones

    Gwyddonydd Gofal Iechyd TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Mae Peter Jones yn Wyddonydd Gofal Iechyd i Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y DU ac ar hyn o bryd mae’n rheoli ansawdd, llywodraethu a’r system ansawdd ISO13485 a weithredwyd yn ddiweddar ar gyfer dyfeisiau meddygol ynghyd â’r gofynion rheoleiddio parhaus.

    Mae Peter wedi gweithio yn y diwydiant biodechnoleg yn flaenorol yn dylunio a datblygu offer monitro biomas ar gyfer y diwydiannau fferyllol. Mae gan Peter brofiad o’r marc CE, ac ef oedd y llofnodwr cydymffurfiad awdurdodedig ar gyfer chwiliedyddion a ddefnyddiwyd yn yr adweithyddion biomas fferyllol. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ym maes peirianneg glinigol yn Wyddonydd Gofal Iechyd Arbenigol.

    Mae diddordebau Peter ym meysydd argraffu 3D, dylunio cylchedau electronig a systemau deallusrwydd artiffisial.

  • Mr Billy Woods

    Gwyddonydd Clinigol TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Mae Billy Woods yn Wyddonydd Clinigol i Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y DU. Fe’i hyfforddwyd ym maes peirianneg adsefydlu ar raglen hyfforddi gwyddonwyr clinigol y GIG – gan weithio’n agos gyda chleifion mewn meysydd fel ystum y corff a symudedd, technoleg gynorthwyol, dadansoddi osgo yn glinigol a datblygu dyfeisiau meddygol.

    Trwy ddod o hyd i atebion ymarferol i broblemau a wynebir gan unigolion â namau niwrolegol mewn amgylcheddau diwydiant a GIG, mae wedi datblygu angerdd at wella canlyniadau cleifion.

    Mae prosiectau ymchwil blaenorol Billy yn cynnwys datblygu ap ffotograffiaeth glinigol ar gyfer casglu data o bell ac ysgogiad trydanol gweithredol a ddefnyddir mewn adsefydlu a chwaraeon hygyrch.

  • Mrs Arya Chandran

    Cynorthwyydd Ymchwil TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Mae Mrs Arya Chandran yn Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cymru. Mae Arya yn arbenigo mewn peirianneg fiofeddygol ac mae wedi ysgrifennu amryw o bapurau. Mae ganddi sawl blwyddyn o brofiad o fewn ymchwil peirianneg fiofeddygol, ar ôl cyflwyno gwaith gwreiddiol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Ymhlith diddordebau ymchwil Arya mae swyddogaeth biosynwyryddion a thrawsddygiaduron mewn gofal iechyd.

  • Dr Gareth Davies

    Technolegydd Arloesedd, TriTech ac Arloesedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Mae Dr Gareth Davies yn Dechnolegydd Arloesedd ar gyfer Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cymru. Mae ei waith ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio ar effeithiau sepsis ar geulad gwaed a strwythur clotiau.

    Mae gan Gareth dros 5 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn amgylchedd clinigol acíwt. Mae wedi ysgrifennu papurau amrywiol ac ef yw arweinydd presennol TriTech ar Ofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC). Mae ganddo sawl blwyddyn o brofiad o ddatblygu apiau, ar ôl cyhoeddi sawl ap masnachol.

    Mae diddordebau ymchwil Gareth yn cynnwys swyddogaeth deallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd, yn enwedig dysgu peirianyddol a’i ddefnydd posibl fel bioddangosydd.

  • Michelle Jones

    Swyddog Gweinyddol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Michelle Jones yw Swyddog Cymorth Gweinyddol Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae’n cefnogi’r tîm ag amrywiaeth eang o dasgau gweinyddol i sicrhau cyfathrebu di-dor.

  • Marie Kathrens

    Rheolwr Rhaglen – Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Ar hyn o bryd, mae Marie Kathrens yn cael ei chynnal gan Tritech fel rhan o secondiad yn gweithio gyda Phrosiectau ac Arloesi Gofal Cynlluniedig Comisiwn Bevan i Arweinwyr ledled Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae Marie yn Rheolwr Rhaglen a Phrosiect profiadol (MSP; Prince 2) sydd wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am bum mlynedd o fewn arbenigeddau iechyd meddwl a gofal brys

    Mae Marie wedi cwblhau MSc mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi) yn ddiweddar. Fel rhan o’i hymchwil, astudiodd Marie y rhwystrau a’r galluogwyr i fabwysiadu a lledaenu arloesedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac mae ganddi ddiddordeb mewn cynyddu cyfradd mabwysiadu prosiectau arloesi llwyddiannus, gan sicrhau eu bod yn trosglwyddo o’r cam peilot i gyflawni effaith ehangach.

  • Richard Davies

    Cydlynydd Ymchwil ac Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Richard Davies yw ein Cydlynydd Ymchwil ac Arloesi ac mae’n cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu prosiectau arloesi ac mae’n helpu i gysylltu partneriaid Prifysgol ag arbenigwyr yn y Bwrdd Iechyd i feithrin partneriaethau a chydweithrediadau deinamig.

  • Stephen Farrington

    Gwyddonydd Gofal Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Mae gan Stephen Farrington dros 35 mlynedd o brofiad o weithio ym maes Peirianneg Glinigol y GIG ac mae wedi gweithio’n agos gyda Sefydliad TriTech ers ei ffurfio. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Gwyddonydd Gofal Iechyd, gan reoli prosiectau amrywiol a datblygu prosesau a gweithdrefnau ar gyfer TriTech, gan gynnwys sicrhau ei fod yn cadw ei system rheoli ansawdd ISO I13485.

  • Zohra Omar

    Nyrs Glinigol Arbenigol – Ymchwil ac Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Zohra Omar yw ein Nyrs Glinigol Arbenigol – Ymchwil ac Arloesi gyda dros 30 mlynedd o brofiad o weithio o fewn y GIG. Mae cyfran sylweddol o’i gyrfa nyrsio wedi canolbwyntio ar ddarparu ymchwil glinigol o fewn gofal iechyd, gan gefnogi cleifion/cyfranogwyr mewn astudiaethau a thimau clinigol. Mae hi wedi datblygu rhwydwaith eang o gysylltiadau o fewn y GIG a’r tu allan gan gynnwys aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol, noddwyr a phartneriaid yn y diwydiant.

    Yn TriTech, mae hi’n cymryd rhan weithredol ym mhob agwedd ar ddarparu ymchwil o sefydlu astudiaethau, i gydlynu cychwyn, rheoli a chwblhau ymchwil, ymdrin â chasglu data a sicrhau bod dyluniad yr astudiaeth yn bragmatig ac yn gyflawnadwy. Mae hi hefyd yn rhan hanfodol o’r gwaith o gyflawni ymchwil glinigol.

  • Daniel Harris

    Dr Daniel Harris yw ein Fferyllydd Academaidd Clinigol a’n Fferyllydd Gwasanaethau Cardiaidd Arweiniol. Mae gan Daniel dros 20 mlynedd o brofiad clinigol, yn bennaf ym maes cardioleg a rheoli strôc, a gyrfa ymchwil helaeth yn canolbwyntio ar reoli risg cardiofasgwlaidd ac atal afiechyd.

    Ar hyn o bryd, mae Daniel yn cyflawni prosiect Iechyd Poblogaeth y Genhedlaeth Nesaf yn GIG Cymru sy’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r prosiect hwn yn dechrau gyda setiau data gofal iechyd cysylltiedig o fewn Banc Data SAIL, i ddisgrifio tueddiadau mewn clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru a nodi cyfleoedd ar gyfer rheoli clefydau yn well. Ail gam y prosiect yw gweithredu a gwerthuso llwybr gofal newydd gyda’r nod o wella rheoli ffactorau risg cardiofasgwlaidd mewn cleifion risg uchel.

     

    Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae Daniel yn rhan o sawl astudiaeth epidemiolegol cardiofasgwlaidd, mae’n oruchwyliwr PhD ac yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe.

Cysylltiedigion

  • Dr Neil McGuire

    Dr Neil McGuire

    Ymgynghorydd Rheoleiddio Clinigol, TriTech

    Ar hyn o bryd, mae Neil yn ymgynghorydd rheoleiddio clinigol i nifer o ganolfannau rhagoriaeth academaidd, gan gynnwys Prifysgol Coleg Llundain. Mae hefyd yn ymwneud â chwmni newydd o’r enw Meliora Innovation, sy’n bwriadu archwilio’r bylchau mewn darparu dyfeisiau meddygol ledled y byd. Ei rôl ef yw cefnogi gwaith dylunio a chynhyrchu dyfeisiau meddygol arloesol a fydd yn helpu gofal cleifion yn y GIG yn y pen draw.

    Bu’r ymgysylltiadau hyn oherwydd ei waith gyda nifer o weithgynhyrchwyr, y GIG a sefydliadau addysg yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys gwaith cadarnhaol helaeth gyda Phrifysgol Hywel Dda yng Nghymru. Mae’r berthynas ffrwythlon hon â Sefydliad Tritech ac arbenigedd arloesi Cymru wedi parhau i ddatblygu ac mae’n awyddus i atgyfnerthu hyn ymhellach.

  • Dr Sean Jenkins

    Dr Sean Jenkins

    Athro Cyswllt a Phrif Gymrawd Arloesi ATiC, PCYDDS

    Mae Dr Sean Jenkins yn Athro Cysylltiol mewn Dylunio Diwydiannol yn PCYDDS. Ac yntau’n gyn Brif Ddarlithydd a chyn Bennaeth yr Ysgol Dylunio a’r Celfyddydau Cymhwysol, mae bellach yn arwain y gweithgarwch ymchwil, datblygu ac arloesi yn ATiC.

    Diddordeb ymchwil cyfredol Sean yw cymhwyso metrigau ymddygiadol a ffisiolegol i astudio profiad defnyddwyr mewn gofal iechyd a llesiant.  Mae gan Sean radd mewn Dylunio 3D, gradd Meistr mewn Dylunio Diwydiannol a PhD mewn “Mesur Profiad Defnyddwyr yn Thermograffig yn ystod Rhyngweithio rhwng Pobl a Chynnyrch”.  Yn ei draethawd PhD archwiliodd effeithiolrwydd Thermograffeg Isgoch fel dull gwrthrychol, di-gyswllt ar gyfer mesur profiad defnyddwyr yn ystod rhyngweithio rhwng pobl a chynnyrch.

    Yn ogystal â hyn, mae diddordebau ymchwil academaidd a phroffesiynol Sean yn cynnwys pob agwedd ar ddamcaniaeth, ymchwil ac arfer dylunio diwydiannol, gyda diddordeb addysgu ac ymchwil penodol mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (Braslunio 2D i Fodelu, Delweddu a Phrototeipio Arwyneb 3D) a Ffactorau Dynol (mesur Rhyngweithio gyda Chynnyrch, Defnyddioldeb a Phrofiad Defnyddwyr).  Mae’n Thermograffydd Isgoch Ardystiedig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

  • Dr Naomi Joyce

    Pennaeth Menter, Naomi yw arweinydd Partneriaethau Menter ac Arloesi yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ac yn Uwch Ddarlithydd Arloesi ac Ymgysylltu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

    Naomi yw Cyd-Brif Ymchwilydd y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, yn rhan o’r rhaglen Garlam gwerth £24 miliwn a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Hwb Gwyddor Bywyd Cymru a Phrifysgolion Cymru.

    Wrth arwain tîm amlddisgyblaeth o 12, mae Naomi’n cefnogi datblygiad a chyflawniad prosiectau arloesi. Naomi hefyd yw cyd-gadeirydd y rhaglen Ymchwil, Menter ac Arloesi ARCH yn rhanbarthol ac yn Arweinydd Menter ac Arloesi y prosiect Campysau Gwyddor Bywyd a Llesiant gwerth £15 miliwn sy’n rhan o Fargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.