Mae’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ariannu swydd gwyddonydd clinigol ar hyn o bryd yn rhan o’r tîm TriTech.
ATiC yw un o bedwar partner yn y rhaglen Accelerate (Cyflymydd Technoleg ac Arloesi Iechyd Cymru) sydd wedi’i chyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, i gefnogi Ymchwil, Datblygu ac Arloesi mewn gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Wedi’i bweru gan dîm amlddisgyblaeth o artistiaid, cynllunwyr, peirianwyr a gwyddonwyr, mae labordy UX ATiC yn cynnig ystod unigryw a chynhwysfawr o ddulliau biofecanyddol, biometrig, seicoffisiolegol ac ymddygiad o fesur a dadansoddi ffactorau defnyddioldeb a phrofiad y defnyddiwr. Mae ystod o atebion meddalwedd a sganio 3D safonol yn y diwydiant yn cefnogi’r gallu i gofnodi’n gywir y corff dynol, gwrthrychau ac amgylcheddau gofodol ac yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon i’w modelu, argraffu 3D, dadansoddi a gwerthuso mewn cyd-destunau real ac efelychiadau realiti rhithwir.