Cyfranogiad
y Cyhoedd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn
gwneud gwaith ymchwil a ysgogir gan
gydweithredu yn aml – gan ddod â chymuned
weithgar o academyddion, clinigwyr ac
ymchwilwyr blaenllaw ynghyd.

Rydym yn awyddus i sicrhau cefnogaeth ychwanegol gan y cyhoedd i helpu i wella ein gwasanaethau a chynnal safonau lefel y diwydiant.

I ddarganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan yn ein treialon clinigol, llenwch y ffurflen isod a bydd rhywun o’n tîm yn cysylltu â chi.

Testimonial Review Form
Hysbysiad preifatrwydd

Hysbysiad preifatrwydd

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei chyflwyno, neu yr ydych wedi’i chyflwyno i’n galluogi i wneud gwaith dilynol ar unrhyw gamau gweithredu.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau Diogelu Data yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, er enghraifft sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, am faint y cedwir eich gwybodaeth neu sut yr ydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, ar gael yn: Hysbysiadau preifatrwydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (nhs.wales)

Trwy ddefnyddio’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch data personol gael eu prosesu yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.