Arloesi Gofal
Iechyd

O Arloesi i Effaith – Cyflymu tystiolaeth a chreu
gwerth yn y GIG i wella dealltwriaeth, effaith
a chanlyniadau i gleifion, darparwyr gofal iechyd,
a phartneriaid diwydiant.

Ymchwil a gwerthusiadau byd go
iawn ar arloesiadau gofal iechyd

Gan gydweithio â’r sector gwyddorau bywyd ac amrywiol Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru a’r DU, mae’r tîm o wyddonwyr clinigol, ymchwilwyr, peirianwyr, gwyddonwyr data, nyrsys, fferyllwyr a meddygon yn cynnal ymchwil drosi a gwerthusiadau byd go iawn ar arloesiadau ym maes gofal iechyd.

Ymchwil drosi

Mae hyn yn golygu sefydliadau sy’n comisiynu ymchwiliadau clinigol a threialon i sicrhau effeithiolrwydd a diogelwch eu harloesiadau …

Gwerthusiad Byd Go Iawn

Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau sy’n comisiynu ymchwil werthusol i ddeall effaith ehangach eu hiechyd a’u lles…

Cyngor Strategol

Mae hyn yn golygu bod sefydliadau yn comisiynu cyngor penodol iawn. Gallai hyn fod yn ymwneud â pharodrwydd ar gyfer mabwysiadu arloesi, arfarniad cyflym…

Ein Gwerthoedd

Proffesiynol

Rydym yn hyrwyddo datblygu datrysiadau gofal iechyd drwy drosoli dulliau Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth a dulliau Iechyd Economaidd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddarparu un pwynt mynediad i’r GIG yng Nghymru. Rydym yn dwyn ein hunain i gyfrif am ein holl waith, gan sicrhau ein bod yn bodloni eich disgwyliadau ac yn rhagori arnynt.

Blaengar

Mae ein gwaith wedi’i seilio ar ymchwil drosi a thystiolaeth yn y byd go iawn, gan fwrw ymlaen yn brydlon gyda phenderfyniad i roi lefel uchel o foddhad i’n cwsmeriaid. Mae ein gwasanaethau wedi’u cynllunio i fod yn chwim ac yn effeithiol, gan sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad o ran arloesi ym maes gofal iechyd.

Arloesol

Mae ein tîm yn cynnwys gwyddonwyr clinigol medrus iawn, ymchwilwyr, peirianwyr, gwyddonwyr data, nyrsys, fferyllwyr a meddygon. Rydym wedi ymrwymo i fod yn arloesol ac yn flaengar, gan sicrhau bod datrysiadau yn barod ar gyfer y farchnad.

Hynaws

Mae partneriaethau yn ganolog i’n cenhadaeth. Mae ein tîm yn foesegol a hynaws ac yn ymroddedig i ddatblygu perthnasoedd hirhoedlog. Rydym yn credu mewn grym cydweithio ac yn ymdrechu i greu cysylltiadau ystyrlon yn ein holl ymdrechion.

Ystwyth

Mae ein sefydliad yn ymgorffori ystwythder, gan ddangos ymatebolrwydd uchel a’r gallu i addasu dulliau ar gyfer partneriaid diwydiant wrth gynnal fframweithiau llywodraethu cryf.

x-ray
TriTech Sefydliad
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.