Cyngor

Fel tîm profiadol â phortffolio amrywiol,
rydym yn gallu eich cynorthwyo gydag
amrywiaeth eang o ffrydiau gwaith sy’n
ymwneud â gwyddoniaeth reoleiddiol,
gwerthuso ac ymchwil arloesol.

Gan ein bod yn ganolfan ragoriaeth ym maes arloesi a gwyddoniaeth reoleiddiol, mae ein tîm yn arwain y diwydiant a gall gynnig arbenigedd ym meysydd dylunio a pharatoi astudiaethau, noddi astudiaethau, darparu gwaith ymchwil a gwerthuso, sicrhau ansawdd a dadansoddi. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau academaidd clodfawr yng Nghymru ac yn ymfalchïo yn ein hastudiaethau cymhwysol a’n gallu i asesu effeithiolrwydd technolegau newydd â defnydd ‘byd go iawn’.

Gall ein tîm ymchwil arbenigol
eich cynorthwyo trwy
:

  • cynllunio cyflwyniad grant ochr yn ochr ag ysgrifennu’r adrannau perthnasol o geisiadau grant
  • dreialon clinigol arloesol
  • darpariaeth ac ymgynghoriaeth gwaith gwerthuso ac ymchwil
  • deall sut mae ymchwil a gwerthuso yn gweithio yn ymarferol – trwy ddull ‘byd go iawn’ o ymdrin ag atebion gofal iechyd arloesol
  • cyfleoedd i noddi astudiaethau
  • fframweithiau dylunio a pharatoi astudiaethau ymchwil
  • deall gofynion rheoleiddio.