Mae Sefydliad TriTech yn fenter Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydlwyd ym mis Medi 2020. Mae TriTech yn cynnig gwasanaeth cymorth unigryw i ddatblygwyr technoleg iechyd clinigol, academaidd a masnachol i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu technoleg yn y GIG.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i tua 384,000 o bobl ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yng Nghymru, y DU. Mae’n darparu gwasanaethau acíwt, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu trwy ysbytai cyffredinol a chymunedol, canolfannau iechyd, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr, optometryddion a safleoedd eraill.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi ei Strategaeth Ymchwil ac Arloesi, a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau clinigol i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r strategaeth, sy’n rhan o strategaeth iechyd a gofal hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda, yn ceisio gwella proffil, ansawdd a maint gweithgarwch ymchwil ac arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.