Astudiaethau Achos

Yma yn TriTech, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith
ein bod yn arwain y diwydiant ym meysydd
peirianneg glinigol, arloesi a gofal iechyd sy’n
seiliedig ar werth. Edrychwch ar rai o’n
prosiectau llwyddiannus.

Os oes angen cymorth arnoch i ddatblygu atebion
technoleg gofal iechyd arloesol neu i gael eich
cynnyrch technoleg gofal iechyd yn barod ar gyfer
y farchnad, cysylltwch heddiw.

Astudiaeth Achos: rTMS

Cefndir: Mae Ysgogiad Magnetig Trawsgreuanol Ailadroddus (rTMS) yn fath o dechnoleg y gellir ei defnyddio mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau seiciatrig. Mae rTMS yn cynnwys cyswllt rhwng y ddyfais a phen y claf ac mae’n defnyddio anwythiad electromagnetig i ysgogi rhannau o’r ymennydd. Dangoswyd mewn astudiaethau clinigol bod hyn yn effeithiol. Nid yw’r dechnoleg hon yn ymwthiol, mae ysgogi’r ymennydd yn digwydd drwy’r penglog felly nid oes angen i’r claf fod o dan anesthetig. Yn dilyn triniaeth, gall claf yrru ei hun adref.

Mae Magstim®, cwmni o Gymru sy’n cynhyrchu technoleg rTMS, wedi benthyg un o’u dyfeisiau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHD), ar gyfer gwerthusiad yn y gwasanaeth iechyd meddwl i oedolion yn Ysbyty Glangwili (YGG). Cynhaliwyd y gwerthusiad hwn dros gyfnod o dri mis a daeth i ben ddiwedd mis Ebrill 2022. Y rhesymeg y tu ôl i’r gwerthusiad hwn oedd bod ymchwil a gyhoeddwyd yn dangos bod rTMS yn ddiogel ac yn effeithiol, ond mae angen mwy o waith o ran pa mor gost-effeithiol ydyw a’r gallu i’w gyflwyno ar raddfa fwy o fewn y GIG. Nid yw’r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio’n glinigol ar hyn o bryd mewn unrhyw fwrdd iechyd GIG yng Nghymru.

Nod y gwerthusiad hwn oedd deall y ffactorau a allai fod yn bwysig i sefydliadau sy’n ystyried a ddylid mabwysiadu rTMS ai peidio a hefyd archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno technoleg rTMS yn genedlaethol yng Nghymru. Fel rhan o’r gwerthusiad, gwahoddwyd 10 claf ag iselder sy’n gwrthsefyll cyffuriau i dderbyn 30 o driniaethau o rTMS, bob un yn para 37 munud yr un dros gyfnod o 6 wythnos.

Fel rhan o’r gwerthusiad, gofynnwyd dau gwestiwn:

  • A ellir gweithredu rTMS yn ddiogel ac yn gyflym fel gwasanaeth o fewn GIG Cymru?
  • A yw’n dderbyniol i gleifion a staff?

Canlyniadau: Cwblhaodd 10 o gleifion a oedd yn rhan o’r gwerthusiad yr holl driniaethau. Gwelwyd newidiadau cadarnhaol yn y rhan fwyaf o’r cleifion a nodwyd y newidiadau hyn yn y sgoriau clinigol a gan y cleifion eu hunain neu aelodau o’r teulu. Mae angen mwy o ddata ynghylch effeithiolrwydd clinigol hirdymor ac i asesu a yw costau’n cael eu harbed mewn meysydd eraill. Byddai dadansoddiad economaidd a phrosiectau ymchwil i gymwysiadau ychwanegol o rTMS yn helpu i gyfiawnhau costau’r ddyfais a chynnal gwasanaeth o’r fath.

Mynegodd y rhai a oedd wedi bod trwy driniaethau therapi electrogynhyrfol (ECT) yn flaenorol, sy’n fath ymwthiol o therapi sy’n gofyn am anesthesia, fod rTMS yn llawer mwy ffafriol. Roedd y rhan fwyaf o gleifion yn parhau i fod yn obeithiol am driniaethau drwy gydol y gwerthusiad ac yn parhau i fod yn obeithiol ac yn gadarnhaol tuag at ddiwedd y triniaethau hyd yn oed os nad oeddent yn sylwi ar y gwelliannau hyn ynddyn nhw eu hunain. Mae’n debygol bod y sylw a’r gofal mawr y cawson nhw gan y tîm clinigol wedi bod chwarae rhan fawr yn yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan gleifion.

Teimlodd y rhan fwyaf o gleifion flinder yn dilyn y triniaethau, a theimlodd sawl un rywfaint o boen neu symudiadau anrheoledig. Ychydig o gleifion yn unig fu â phroblemau yn rheolaidd wrth fynychu’r apwyntiadau, ac roedd y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan amlder/cyfanswm y triniaethau mewn cyflogaeth amser llawn. Fodd bynnag, er gwaethaf unrhyw anesmwythyd neu anghyfleustra a achoswyd, cwblhaodd pob claf ei driniaeth a dim ond nifer bach o driniaethau unigol a gollwyd.

Roedd gan y staff a oedd mewn cysylltiad uniongyrchol â’r cleifion yn ystod triniaethau agweddau cadarnhaol tuag at y ddyfais a’i photensial clinigol. Roedd gan staff ddiddordeb mewn defnyddio’r dechnoleg ar gyfer ymchwil pellach i bennu effeithiolrwydd protocolau eraill i leihau hyd y driniaeth a’i phrofi ar gyflyrau neu symptomau eraill.

Ar hyn o bryd, y camau nesaf yn dilyn y gwerthusiad hwn yw dadansoddiad economaidd cadarn a datblygiad achosion busnes sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru (LSHW). Os yw’r achos busnes yn dangos budd cost posibl i’r bwrdd iechyd, bydd hyn yn cefnogi ymchwil pellach gyda dyfeisiau rTMS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae archwilio ymwybyddiaeth glinigol a’r angen am y dechnoleg hon ac ymchwil i gymwysiadau clinigol ychwanegol yn gamau nesaf pwysig.

Astudiaeth Achos: Rhaglen Addysg Diabetes Caergrawnt (CDEP)

Cefndir: Gan adeiladu ar ein hanes o arloesi, sefydlwyd y Sefydliad TriTech gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan ystyried y cyd-destun polisi a strategol cenedlaethol a lleol, i gefnogi datblygiad a gwerthusiad technolegau gofal iechyd arloesol, sy’n cyfrannu at ganlyniadau gwell i gleifion. Mae gwaith blaenorol a gefnogwyd gan Hywel Dda yn cynnwys y canlynol.

Hyfforddiant diabetes i staff gofal iechyd…

  • Gwella gwybodaeth,
  • Hybu hyder a
  • Hyrwyddo gofal cleifion mwy diogel.

Ynglŷn â Rhaglen Addysg Diabetes Caergrawnt (CDEP)

Cafodd Rhaglen Addysg Diabetes Caergrawnt ei dylunio a’i phrofi gan dîm diabetes arbenigol amlddisgyblaethol, yn cynnwys nyrsys, deietegwyr, podiatryddion, cynorthwywyr gofal iechyd, meddygon teulu ac ymgynghorwyr ysbytai gan gynnwys Dr Sam Rice yn Hywel Dda a Chris Cotterell ym Mae Abertawe. Mae’n seiliedig ar fframwaith cymwyseddau diabetes y DU, a gydnabyddir yn genedlaethol, ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd, i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth gywir am ddiabetes i gefnogi cleifion sy’n byw gyda diabetes.

Y fframweithiau cymhwysedd diabetes amrywiol yn y DU y mae CDEP yn eu defnyddio yw:

Mae cynnwys CDEP yn cael ei adolygu’n barhaus a’i ddatblygu ymhellach i sicrhau bod y cyfleoedd dysgu a gynigir yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gyfredol ac yn berthnasol i’r gynulleidfa darged. Mae canlyniadau CDEP yn cael eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ymarferwyr gofal iechyd.

Canlyniadau archwiliad CDEP: Yn yr archwiliad diwethaf (Tachwedd 2020 n= 41,137), dywedodd 99.98% o ddefnyddwyr fod cynnal pwnc CDEP naill ai’n cadarnhau lefel uchel eu gwybodaeth am ddiabetes (15%) neu’n cefnogi gwelliant yn eu gwybodaeth am ddiabetes (85%). Hyd yma mae 3,844 o Ymarferwyr o Gymru wedi cael eu hyfforddi gan ddefnyddio’r system ac yn dilyn y cydweithio, roedd Dr Sam Rice yn gallu negodi mynediad am ddim i bob Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol ledled Cymru.

Astudiaeth Achos: Defnyddio technolegau newydd i nodi bioddangosyddion newydd ar gyfer gwneud diagnosis o glefydau'r ysgyfaint a’u monitro (NovelTech)

Cefndir: Mae’r prosiect yn ymchwilio i fioddangosyddion (cemegau yng ngwaed, troeth, poer a sbwtwm pobl) y gallai fod modd eu canfod cyn i gleifion ddatblygu symptomau neu y gwelir newidiadau ar sganiau ysbyty ac archwiliadau pelydr-X o’r frest. Mae’r prosiect yn archwilio ymhellach wedyn sut mae newidiadau i gyflwr neu driniaeth person yn effeithio ar y bioddangosyddion. Caiff gwybodaeth o gofnodion meddygol y rhai sy’n cymryd rhan eu casglu at ei gilydd gyda samplau sy’n destun dadansoddiadau i-omics. Gallai’r rhaglen ymchwil hon, sy’n cyfrannu at astudiaethau addysgol, helpu i wneud diagnosis o’r mathau hyn o glefydau yn gynharach fel y gellir gwella gofal yn y dyfodol.

Canlyniadau: Mae hwn yn brosiect parhaus mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth. Dechreuodd y prosiect gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2016 a chafodd ei ymestyn i gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2017. Recriwtiwyd mwy na 1200 o gyfranogwyr â chyflwr anadlol hyd yma.

Mae nifer o gyhoeddiadau a chrynodebau o gynadleddau wedi deillio o’r gwaith hwn eisoes, gan gynnwys:

Cyhoeddiadau:

  • da Costa, R.; Love, K.; Beckmann, M.; Morley, A.; Bhatnagar, R.; Maskel, N.; Mur, L.A.; Lewis, K. Metabolomics differentiate cancer from non-cancer pleural effusions based on steroid lipids and acyl carnitines. medRxiv 2020, 10.1101/2020.07.27.20162958, 2020.2007.2027.20162958, doi:10.1101/2020.07.27.20162958.
  • Paes de Araujo, R.; Bertoni, N.; Seneda, A.L.; Felix, T.F.; Carvalho, M.; Lewis, K.E.; Hasimoto, E.N.; Beckmann, M.; Drigo, S.A.; Reis, P.P., et al. Defining Metabolic Rewiring in Lung Squamous Cell Carcinoma. Metabolites 2019, 9, doi:10.3390/metabo9030047.
  • Mironas, A.; Cameron, S.; O’Shea, K.; Lu, C.; Lewis, P.; Mur, L.; Lewis, K. Exploiting metabolomic approaches to aid in the diagnosis of lung cancer. Cymdeithas Anadlol Ewrop: 2016. (Cynhadledd)
  • Non-targeted integrative multi-omics approaches on sputum reveal potential diagnostic and monitoring biomarkers for respiratory diseases(2017) Luis Mur, Adrian Mironas, Rachel Paes de Araujo, Keiron O’Shea, Keir Lewis

Crynodebau cynhadledd:

  • Early exploratory use of omic approaches to assess metabolite changes in COPD(2020) Tina Kramaric, Sarah Thomas, Katie Love, Ian Bond, David Rooke, Luis Mur, Keir Lewis​
  • Rapid diagnostic approaches for thoracic disease based on pleural effusions(2018) Katie Love, Rachel Paes de Araujo, Ricardo da Costa, Manfred Beckmann, Keir Lewis, Nick Maskell, Luis Mur​
Astudiaeth Achos: Rhaglen E-ddysgu Rheoli Poen Cronig: Byw Bywyd Gyda Phoen. Comisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe

Cefndir: Bwriad y prosiect yw digidoleiddio ein rhaglen rheoli poen 12 modiwl effeithiol bresennol, gan greu rhaglen linol mewn fformat digidol – System Rheoli Dysgu (LMS). Bydd pob modiwl yn cynnwys addysg ar boen, ymlacio, pennu nodau, gwneud pethau’n raddol ac ymarferion yn ogystal ag adnoddau ychwanegol y gallai defnyddwyr gael gafael arnyn nhw. Pan fydd y defnyddiwr wedi gwneud ei ddewis o iaith ar gyfer yr ap (Cymraeg neu Saesneg) bydd angen cwblhau pob modiwl cyn symud ymlaen i’r modiwl nesaf. Wrth i’r defnyddiwr symud trwy bob modiwl, bydd yn gallu gweld yr holl gynnwys a gwblhawyd eisoes i’w archwilio ymhellach a’i adolygu; yn y pen draw gellir defnyddio hwn fel adnodd parhaus ar gyfer y defnyddiwr. Bydd yr LMS yn rhyngweithiol ac yn cynnwys fideo, llais, darlunio, a thestun. Bydd archwiliadau gwybodaeth syml yn galluogi cleifion i olrhain cynnydd, gan ymgorffori adnoddau fel technegau ymlacio a ffeiliau sain i gynorthwyo ar bob cam o wella. Mae’r dyluniad picsel berffaith hawdd ei ddefnyddio yn gweithio ar draws amrywiaeth o lwyfannau gan gynnwys cyfrifiaduron bwrdd gwaith a llechen a ffonau symudol.

Canlyniadau: Mae hwn yn brosiect parhaus, ond mae wedi llwyddo i ennill bron i £14,000 gan Hac Iechyd Cymru. Mae Dr Ffion John wedi cyfuno ag OSP Healthcare, sy’n datblygu’r llwyfan digidol ar gyfer y rhaglen E-ddysgu.

Sicrhawyd cyllid ychwanegol hefyd i gwblhau’r prosiect. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cynorthwyo’r datblygiad a’r gwerthusiad ar gyfer y dyfodol – mewn partneriaeth â’r rhaglen Cyflymu, Prifysgol Abertawe.

IP: Mae’r contract yn cydnabod mewnbwn sylweddol y Bwrdd Iechyd ac yn sicrhau cyfran o unrhyw incwm sy’n gysylltiedig â masnacheiddio’r cwmni yn y dyfodol.

Astudiaeth Achos: PocketMedic

Cefndir: Llwyfan digidol yw PocketMedic sy’n galluogi clinigwyr ym meysydd gofal sylfaenol, eilaidd neu gymunedol i anfon presgripsiynau ar ffilm i gleifion i helpu i reoli clefydau cronig. Gellir gwylio’r rhain ar ffonau symudol, cyfrifiaduron llechen neu gyfrifiaduron personol. Mae dros 30 o ffilmiau ar gael erbyn hyn ar gyfer diabetes math 2, math 1, yn ystod beichiogrwydd a chyn-ddiabetes – sy’n ymdrin â phob agwedd ar ofal diabetes. Cawson nhw eu cynnwys yn ddiweddar yn y Gwasanaeth Ychwanegol dan Gyfarwyddyd ar gyfer Diabetes yng Nghymru ac mae oddeutu 1,000 o gleifion yn eu gwylio bob mis. Dangosodd gwerthusiad cychwynnol o’r system welliant i reolaeth y clefyd fel y’i mesurir gan HbA1c.

Canlyniadau: Mae rhagor o werthusiadau yn edrych ar gyn-ddiabetes mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yn parhau. Mae eDigital Health yn gweithio gyda’n tîm ar amrywiaeth o brosiectau yn ymwneud â diabetes, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, COVID hir a llesiant staff mewn partneriaeth â Chomisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth.

Cafodd PocketMedic (eDigital Health), mewn cydweithrediad â Dr Sam Rice o Ysbyty’r Tywysog Philip, gymeradwyaeth yng Ngwobrau Ansawdd Mewn Gofal Diabetes 2018. Dr. Sam Rice yw Arweinydd Pecyn Gwaith Uned Ymchwil Diabetes Cymru ar gyfer y thema ‘Hunan-reoli Diabetes’. Mae gwobr Ansawdd mewn Gofal yn golygu bod menter wedi ei chydnabod gan y GIG, cleifion a’r diwydiant yn un sy’n gwella ansawdd bywyd i bobl sy’n byw â diabetes.

Meddai’r beirniaid: “Syniad arloesol iawn i roi ffilmiau ar bresgripsiwn. Cysyniad gwych, sydd wedi ei ystyried yn fanwl o safbwynt y cleifion ac wedi ei gyflwyno yn dda. Mae’r fideos hyn yn helpu i addysgu a hysbysu cleifion yn fwy effeithiol na dulliau traddodiadol.”

Astudiaeth Achos: My COPD Pal

Cefndir: I gynorthwyo hunan-reoli, mewn partneriaeth â Bond Digital Health (BDH), Comisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe a chynrychiolwyr cleifion, datblygwyd ap ffôn symudol digidol a oedd yn galluogi cleifion i gael rheolaeth ar eu Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD). Datblygwyd prototeip wedi’i deilwra o’r ap, â chyllid gan Lywodraeth Cymru (ETTP – £115,720), ac fe’i profwyd mewn 2 astudiaeth a gymeradwywyd gan REC – Cyfnod 1 (Rhif Adnabod IRAS: 270736, cyf REC:19/LO/1649) a Chyfnod 2 (Rhif Adnabod IRAS: 235302, cyf REC: 19/WA/0347).

Canlyniadau: Canfu astudiaethau ei fod yn dderbyniol ac yn arwain at well rheolaeth o symptomau. Mae Bond Digital Health a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda’i gilydd bellach i fireinio’r ap ymhellach i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl ar lesiant cleifion.

Cyhoeddiadau:

  • Knox, L., Gemine, R., Rees, S., Bowen, S., Groom, P., Taylor, D., Bond, I., Rosser, W., a Lewis, K. (2020). Using the Technology Acceptance Model to conceptualise experiences of the usability and acceptability of a self-management app (COPD.Pal®) for Chronic Obstructive Pulmonary Disease. Health and Technology, 1 – 7.
  • Knox, L., Gemine, R., Rees, S., Bowen, S., Groom, P., Taylor, D., Bond, I., Rosser, W., a Lewis, K. (2021). Assessing the uptake, engagement, and safety of a self-management app, COPD.Pal®, for Chronic Obstructive Pulmonary Disease: a pilot study. Health and Technology (yn cael ei argraffu).
Astudiaeth Achos: Using video conferencing to extend the benefits of pulmonary rehabilitation to rural communities (VIPAR)

Cefndir: Rhaglen o ymarferion ac addysg i gleifion â Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) yw adsefydlu ysgyfeintiol, sy’n cael ei chynnal ddwywaith yr wythnos dros gyfnod o saith wythnos yn draddodiadol. I unigolion â chyflwr cronig yr ysgyfaint, dylai Adsefydlu Ysgyfeintiol fod yn rhan annatod o’u gofal, ac amlinellodd Llywodraeth Cymru ddisgwyliad bod pob claf cymwys yn cael cynnig gwasanaethau o’r fath. Nod y prosiect hwn oedd darparu gwasanaeth adsefydlu ysgyfeintiol mwy effeithlon a chyfartal ar draws ardaloedd gwledig yng Nghymru trwy ddarparu ymyriadau adsefydlu gan ddefnyddio technoleg fideo-gynadledda.

Canlyniadau: Mae VIPAR wedi arbed amser gyrru a milltiroedd a deithiwyd i bob claf, yn ogystal â darparu gwell canlyniadau iechyd. Roedd y prosiect yn gallu dangos yn eglur (trwy 3 rhaglen) fod adsefydlu ysgyfeintiol rhithwir:

  • yn ymarferol ac yn ddiogel
  • yn boblogaidd ymhlith staff a chleifion
  • yn ymddangos o leiaf mor effeithiol ag adsefydlu ysgyfeintiol safonol yn y tymor byr.
  • yn arbed arian ac yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd

Uchelgeisiau’r prosiect yn y dyfodol yw sicrhau cyllid i barhau i gynnal gwasanaethau adsefydlu rhithwir mewn ardaloedd gwledig gan ddefnyddio model prif ganolfan a lloerennau, i greu rhwydwaith adsefydlu ysgyfeintiol rhithwir (VIPAR) ledled Cymru gyfan.

Cyhoeddiadau a Gwobrau:

  • Enillydd Mediwales 2018
  • Knox L, Dunning M, Davies CA, Mills-Bennet R, Sion TW, Phipps K, Stevenson V, Hurlin C, Lewis K. Safety, feasibility, and effectiveness of virtual pulmonary rehabilitation in the real world. Int J Chron Obstruct Pulmon Dis. 2019 Ebr 8;14:775-780. doi: 10.2147/COPD.S193827. PMID: 31040656; PMCID: PMC6459142.
Astudiaeth Achos: System ddiffibrilio cwmwl yn ystod COVID-19

Cefndir: Ceir mwy na 30,000 o ataliadau’r galon y tu allan i’r ysbyty yn y DU bob blwyddyn a dim ond 1 o bob 10 yw’r gyfradd oroesi gyffredinol yn y DU. Mae pob munud heb ddadebru cardio-anadlol (CPR) a diffibrilio yn lleihau’r siawns o oroesi hyd at 10%, ond gall cyflawni CPR fwy na dyblu’r siawns o oroesi mewn rhai achosion (ffibriliad fentriglaidd). Gwnaeth y Cyngor Dadebru nifer o newidiadau i’r canllawiau yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn helpu i ddiogelu gweithwyr gofal iechyd mewn ysbytai. Cyflwynwyd yr egwyddor o “sioc gyntaf” mewn ymgais i adfer cylchrediad cyn gynted â phosibl. Argymhellodd y canllawiau y dylid gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol Lefel 2 (masg llawfeddygol, menig, ffedog, a chyfarpar diogelu’r llygaid) pan fydd diffibriliwr ar gael a diffibrilio rhythmau siocadwy yn gyflym cyn dechrau cywasgiadau’r frest. Gallai adfer cylchrediad yn gynnar atal yr angen am gamau dadebru pellach.

Golygodd y newid i’r canllawiau dadebru y bu’n rhaid i’r tîm peirianneg glinigol ad-drefnu dros 269 o ddiffibrilwyr (cymysgedd o ddiffibrilwyr a weithredir â llaw a rhai allanol awtomatig, AEDs) ar draws pedwar ysbyty acíwt a nifer o leoliadau cymunedol. Fe wnaeth hyn ein cymell i ystyried gwahanol strategaethau i ad-drefnu dyfeisiau yn y dyfodol trwy system gwmwl.

Canlyniadau: Mae pob diffibriliwr yn cael ei gadw yn yr ysbytai acíwt a chymunedol, ond yn diweddaru i’r Cwmwl a gweinydd STAT Cod y Bwrdd Iechyd bob dydd. Cynhelir hunan-brofion dyfeisiau awtomatig am 3am bob dydd a chaiff y canlyniadau eu llwytho i’r cwmwl. Caiff hysbysiadau eu hanfon ymlaen i’r adrannau Peirianneg Glinigol os bydd unrhyw ddiffygion yn ymddangos er mwyn caniatáu i gamau cywiro gael eu cymryd ar unwaith. Mae’r gallu gennym bellach i:

  • drosglwyddo data dyfeisiau a chleifion yn ddiwifr i leoliad canolog.
  • archwilio dangosfwrdd hawdd ei ddarllen sy’n darparu gwybodaeth yn brydlon
  • mesur cymhareb cywasgiadau
  • mesur cyfradd cywasgiadau
  • mesur dyfnder cywasgiadau
  • data tueddiadau EtCO2 (Carbon Deuocsid a allanadlir)
  • cwestiynu cofnodion digwyddiadau cardiaidd cronolegol
  • trefnu newidiadau o bell trwy Wi-Fi sy’n cefnogi newidiadau i ganllawiau Cyngor Dadebru y DU
  • darparu adborth i dimau clinigol.

Pwyntiau dysgu:

Mae’r canllawiau yn galw am ffracsiynau cywasgu uwch nag 80% a chywasgiadau ar gyfradd o 100-120 y funud. Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fesur bellach sut rydym yn cymharu o ran cywasgiadau, cyfraddau awyru a ffracsiwn cywasgu i weld ein perfformiad o’i gymharu â safonau’r Cyngor Dadebru ar draws y DU. Gallwn gasglu data meintiol o bob digwyddiad i ddangos i dimau clinigol ymarferol sut y gwnaethant berfformio ac i ddangos i dimau arwain clinigol sut mae’r system gyfan yn perfformio.

Mae ein Peirianwyr Clinigol bellach yn cyflawni addasiadau a newidiadau i’r system gwmwl er mwyn gwella defnyddioldeb data a pha mor hawdd yw cael gafael arnynt. Byddwn yn defnyddio’r data a gesglir o’r system gwmwl newydd i ddatblygu strategaethau sy’n galluogi ein timau clinigol i symleiddio protocolau a thriniaethau, i helpu i wella arfer ymhellach yn unol â chanllawiau’r Cyngor Dadebru.

Astudiaeth Achos: Dyfeisiau sterileiddio aer uwchfioled C (UVC) fel strategaeth i leihau'r risg o drosglwyddo yn yr aer

Cyflwyniad: Yn ystod ail don pandemig SARS-CoV-2, cododd nifer y cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yn raddol ledled y DU o gyfartaledd wythnosol o 122 (1 Medi 2020) hyd at 2,037 (17 Rhagfyr) gan gyrraedd uchafbwynt o 4,232 o achosion yr wythnos yn y pen draw ar 9 Ionawr 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd y GIG i gyflawni gyda derbyniadau eraill nad oeddent yn ymwneud â COVID a llawdriniaethau dewisol.

O ganlyniad i’r cynnydd mewn derbyniadau i’r ysbyty, ystyriodd ein timau uned therapi dwys ehangu i’r wardiau i reoli cleifion sy’n ddifrifol wael yn sgil SARS-CoV-2. Gofynnwyd am adolygiad brys o ddichonoldeb, effeithiolrwydd a diogelwch dyfeisiau sterileiddio aer UVC er mwyn lleihau hyd y cyfnod glanhau gofynnol rhwng triniaethau cleifion i system awyru’r ystafell glirio aer a allai fod wedi’i halogi gan ronynnau aerosol â llwyth feirysol.

Cynigia Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) fewnwelediad i effeithlonrwydd awyru a lledaeniad halogiad nad oedd ar gael yn flaenorol yng nghynllun gwreiddiol y mannau triniaeth presennol.

Amcan: adolygu’r data presennol ynghylch sterileiddio aer UVC

Prif Gwestiynau

  • Pa effaith y mae pelydriad UVC (250nm) yn ei chael ar facteria a feirysau, yn  enwedig SARS-CoV-2?
  • Sut y gallem ragweld effeithiolrwydd UVC mewn lleoliad byd go iawn drwy ddefnyddio modelu cyfrifiadurol a/neu samplu aer amgylcheddol?

Asesiad: Mae mesur cyfradd anactifedd feirysol UVC-pell mewn ystafell gyffredinol yn gymhleth ac yn aml-ffiseg ei natur. Gall defnyddio modelu CFD yn ddoeth wrth geisio deall llifau aer anisotropig cymhleth sy’n gysylltiedig â gwrthrychau sefydlog a symudol (gan gynnwys pobl) awgrymu strategaethau optimeiddio newidiadau aer yr awr (ACH) effeithiol a gyflawnir drwy gyfuno sgrwbio’r aer â systemau gwresogi, awyru ac aerdymheru sy’n bodoli eisoes [7].

Mae ein modelau Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) yn darparu gwybodaeth am wasgariad gronynnau yn yr aer mewn amgylcheddau gofal iechyd lle mae gronynnau aerosol yn peri risg sylweddol. Mae CFD yn arf defnyddiol i ddeall dynameg gronynnau heintus trwy’r aer. Fe’i defnyddiwyd yn llwyddiannus i astudio effaith gwahanol gyfundrefnau awyru, a chynlluniau  o  fewn ardaloedd clinigol [8,9].

Sefydlwyd grŵp arbenigol CFD i fodelu dynameg y llif mewn ystafell driniaeth ddeintyddol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Menywod a Phlant Birmingham. (Yr Athro Tony Fisher, Ysbyty Athrofaol Brenhinol Lerpwl, Yr Athro Paul A White, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt, Fred Mendonça a Pawan Ghildiyal, Open CFD Ltd, Peter Bill, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Menywod a Phlant Birmingham, Claire Greaves, Ysbytai Prifysgol Nottingham a’r Athro Chris Hopkins, Hywel Dda). Defnyddiwyd yr amgylchedd gronynnau aerosol risg uchel hwn yn ystafell ddirprwyol i’r ystafell endosgopi, sef pwyslais yr astudiaeth hon (vide supra).

Modelu Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD): Mae CFD ym maes Gwyddorau Peirianneg adeiladau wedi ei hen sefydlu [10]. Mae datrys hafaliadau Navier-Stokes sy’n llywodraethu symudiad aer continwwm, ynghyd â’r cludiant gronynnol ar wahân, yn rhoi darlun cyflawn i ni o ensemble cymhleth o dyrfedd, hynofedd, gwasgariad aerosol, anweddiad a rhyngweithiad â waliau ar draws yr ystod lawn o feintiau gronynnau o ddiddordeb, [0. 1 .. 100μm3] yn dybiannol.

Yn yr astudiaeth hon o awyru dan do, a noddwyd gan UK Research and Innovation [11], gan ddefnyddio’n llawn CDF ISO9001:2015 ffynhonnell agored a’i ansawdd wedi’i sicrhau [12], aseswyd effeithiolrwydd sawl strategaeth awyru. Mae’r strategaethau’n cynnwys rhai mecanyddol (a reolir gan system rheoli aer yr adeilad), naturiol (agor ffenestr), awyru estynedig (gan ddyfeisiau glanhau aer UV) a sawl cynllun awyrell gwasgaru ar y to.

Mae CFD yn olrhain oedran yr aer (AoA) o ffynhonnell newydd i unrhyw le o fewn cyfaint yr ystafell, gan nodi felly pa rannau sydd wedi’u hawyru’n dda, ac i’r gwrthwyneb, lleoliadau aer marw neu swigod ailgylchu. Yna daw AoA-cymedrig yn fesur ystyrlon o gylchrediad aer glân yn y man amgaeedig.

Mae model CFD o ystafell driniaeth ddeintyddol 44.7m3 Ysbyty Plant Birmingham ag adnoddau llawn yn cynnwys tri pherson; deintydd, claf a nyrs. Cyflenwyd awyru ar y to ychydig i’r ochr o fod yn union uwchben y gadair driniaeth yng nghanol yr ystafell ar 5 ACH gydag echdynnu cytbwys i un ochr.

Gwnaed hyn drwy osod uned UVC symudol yn yr ystafell a ddarparodd 7 ACH o aer wedi’i ailgylchredeg gan arwain at gyfanswm ‘cyfwerth’ o 12 ACH, h.y. 5 ACH o aer o’r awyr agored a gyflenwyd gan y system wresogi, awyru ac aerdymheru fecanyddol a 7 ACH o aer wedi’i ailgylchredeg ac aer glân/wedi’i sterileiddio wedi’i gyflenwi gan yr uned UV symudol.

Pan gyflwynwyd y sterilydd UVC i’r ystafell, bu gostyngiad o hyd at 75% mewn amser glanhau. Ar y gosodiadau safonol (180m3.h-1),gostyngodd oedran yr aer yn yr ystafell i 6 munud ac ar y gosodiad puro neu hybu (360m3.h-1), gostyngwyd hyn ymhellach i 4 munud.

Mae astudiaethau tebyg mewn ystafelloedd sydd wedi’u hawyru’n dda o wahanol feintiau a strategaethau awyru yn awgrymu bod cysylltiad agos rhwng y gyfradd awyru (ACH) ac AoA-cymedrig fel mesur absoliwt mewn munudau. Dim ond amrywiad o +/-15% y mae safle’r UVC neu gyfeiriad llif yr aer yn ei roi wrth gymysgu aer glân.

Casgliad: Awgryma modelu CFD welliant sylweddol mewn ‘aer glân’ ar ôl cyflwyno’r sterilyddion UVC ac mae’n ymddangos bod gwaith cynnar gyda dull canfod PCR ar gyfer SARS-CoV-2 yn cadarnhau hyn. Gwelir y gwelliant yn oedran yr aer a’r ‘cymysgu aer’ pan gaiff ei roi yn y safle gorau oll, ac ni chodir unrhyw faterion arwyddocaol o brofion yn y byd go iawn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu canllawiau ar gyfer defnyddio dyfeisiau glanhau aer cludadwy mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol.