PROSTAD: Llwybr Diagnosis Cyflym Newydd ar gyfer Canser y Prostad.

Mae canser y prostad yn her iechyd sylweddol yn fyd-eang, yn enwedig o ran ei ganfod yn gynnar a’i drin yn brydlon. Mae oedi wrth roi diagnosis o ganser y prostad yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth, gan gynnwys cyfraddau goroesi is, ansawdd bywyd is, a phrofiadau negyddol i gleifion. Canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yn y DU, gyda 2,168 o achosion yn cael diagnosis yng Nghymru rhwng Ionawr a Rhagfyr 2021, sef cynnydd o 15% ers y flwyddyn flaenorol.

Mewn menter ar y cyd â Cancer Research UK, mapiodd adran Wroleg y Bwrdd Iechyd, Sefydliad TriTech a Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC) y llwybr diagnostig i nodi ffactorau a all achosi oedi gan gynnwys materion fel cyfathrebu â chleifion, capasiti Radioleg a Phatholeg, ac amseroedd aros clinigau.

Yn ogystal â nodi a lleihau yr hyn sy’n achosi oedi, cydrannau allweddol y llwybr PROSTAD symlach newydd yw defnyddio’r technegau safon aur diweddaraf gan gynnwys MRI aml-baramedrig (mpMRI) gyda sesiynau sganio pwrpasol, adrodd ac adolygu cyflym a symud tuag at Biopsïau Trawsberinëwm Anesthetig Lleol (LATP) – y dechneg ddiweddaraf sydd â nifer o fanteision dros y fethodoleg bresennol.

Mae’r prosiect PROSTAD wedi cynnwys y cyhoedd a chleifion o’r cychwyn cyntaf, gyda mewnbwn gan aelodau Grŵp Cymorth Prostad Gorllewin Cymru ar ddyluniad y prosiect ei hun, gan roi safbwyntiau profiad cleifion yn ogystal â chymorth i greu taflenni i gleifion.

Mae cydweithwyr academaidd o Brifysgol Abertawe yn rhan annatod o’r prosiect, gan ddadansoddi data a gasglwyd o adborth o gyfweliadau â chleifion a rhanddeiliaid yn ogystal â chynnal gwerthusiad economaidd iechyd o fuddion niferus y llwybr newydd.

Mae disgwyl i’r hyn a ddysgwyd o brosiect CRUK a PROSTAD Hywel Dda gael ei ddefnyddio nid yn unig ar draws ein Bwrdd Iechyd ein hunain, ond ledled Cymru a gweddill y DU. Yn wir, rhagwelir y bydd arwyddocâd y gwersi a ddysgwyd yn mynd y tu hwnt i fyd canser y prostad ac yn fodel ar gyfer arloesi a gwella darpariaeth gofal iechyd.