Llwyddiant Gwobr Anrhydeddus ar gyfer Partneriaeth Awdioleg BIP CTM a Phrifysgol Abertawe

Mae Helen Slade yn Ddarlithydd Awdioleg ym Mhrifysgol Abertawe ac wedi bod yn gweithio’n rhan-amser yn adran Awdioleg BIP CTM. Yn rhan o’i gwaith, mae hi wedi canolbwyntio ar brosiect sy’n ceisio canfod briwiau mater gwyn yn yr ymennydd gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) a’u cysylltiad â cholli clyw, tinitws a phroblemau cydbwysedd. Dechreuodd y syniad ymchwil gwreiddiol fel trafodaeth archwiliadol syml rhwng Dr Jonathan Arthur, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Pennaeth Awdioleg BIP CTM a Dr Emma Richards, Uwch Swyddog Ymchwil o’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ym Mhrifysgol Abertawe. Hwn oedd y man cychwyn ar gyfer cydweithrediad ymchwil rhwng grŵp amrywiol o ymchwilwyr.

Yn ogystal â Jonathan ac Emma, bydd Helen yn arwain y bartneriaeth ymchwil rhwng  yr Athro Andrea Tales, Cyd-gyfarwyddwr CADR, yr Athro Huw Summers, Pennaeth yr Adran Peirianneg Biofeddygol, y ddau o Brifysgol Abertawe ac Antony Bayer, Athro Emeritws Meddygaeth Geriatreg, Prifysgol Caerdydd.

I ddechrau, ariannwyd yr ymchwil gan grant bach a sicrhawyd gan Dr Emma Richards yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR). Roedd y cyllid cychwynnol yn caniatáu i Helen gyfuno a pharatoi moeseg ymchwil a dogfennau perthnasol eraill megis gwybodaeth i ddarpar gyfranogwyr ymchwil yn barod ar gyfer casglu data.

Mae Helen bellach wedi llwyddo i sicrhau Cymrodoriaeth Ymchwil gan Gydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC Cymru). Fel rhan o ddyfarniad y gymrodoriaeth ymchwil, bydd yn caniatáu i’r prosiect hwn barhau. Bydd Helen nawr yn ymgymryd ag un o’r rolau “Cymrawd Ymchwil Glinigol mewn Awdioleg” rhan-amser cyntaf yn GIG Cymru o bosib, os nad y cyntaf. Fel Cymrawd, bydd Helen yn mynychu cyfarfodydd deufisol Cymuned yr Ysgolheigion sy’n rhoi cyfle i rwydweithio a meithrin gwybodaeth a sgiliau ymchwil unigryw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am ein hymchwil, byddwch yn gallu cael y diweddaraf am ein canfyddiadau ar wefan BIP CTM. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Slade, Awdiolegydd Ymchwil a Darlithydd drwy e-bost: helen.slade@wales.nhs.uk / h.m.slade@swansea.ac.uk neu

Dr Emma Richards drwy e-bost: e.v.richards@swansea.ac.uk.