Cydweithio i arloesi: dysgu o brofiad y GIG, elusennau a’r diwydiant gwyddorau bywyd i feithrin diwylliant o ymchwil ac arloesedd yn y DU

Cydweithio i arloesi: dysgu o brofiad y GIG, elusennau a’r diwydiant gwyddorau bywyd i feithrin diwylliant o ymchwil ac arloesedd yn y DU.

“Gyda’r disgwyl y bydd cynnydd triphlyg yn nifer y cyflyrau iechyd hirdymor yng Nghymru dros y 15 mlynedd nesaf, mae angen i ni weld camau breision radical ym maes arloesi.”

Yr Athro Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Enghreifftiau o seilwaith i brif ffrydio ymchwil a lledaenu arloesedd:

Yng Nghymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi sefydlu tîm penodedig, Sefydliad TriTech, i ddarparu cymorth cofleidiol i glinigwyr sy’n awyddus i arwain neu gymryd rhan mewn ymchwiliadau clinigol, treialon clinigol a gwaith gwerthuso yn y byd real i gefnogi mabwysiadu datblygiadau arloesol o ran triniaeth. 

Mae’r adroddiad hwn (Saesneg yn unig), sy’n seiliedig ar drafodaeth bord gron rhwng Cydffederasiwn y GIG, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ac arweinwyr elusennau iechyd, yn ystyried ffyrdd ymarferol o hybu ymchwil yn y DU a meithrin diwylliant o arloesedd.

Cydweithio i arloesi | Cydffederasiwn y GIG