Arbenigedd ATiC a TriTech yn helpu CanSense Ltd i wella prawf gwaed arloesol ar gyfer canfod canser y coluddyn yn gyflym

Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i phartner, Sefydliad TriTech o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ymgymryd â phrosiect cydweithredol 18 mis gyda CanSense Ltd, cwmni gwyddorau bywyd o Gymru.

Mae CanSense-CRC yn arloesi prawf gwaed ar gyfer canfod canser y coluddyn a’r rhefr (CRC) – neu ganser y coluddyn – yn gynnar. Gall y prawf, sy’n cynnwys elfennau caledwedd a meddalwedd, gyflawni canlyniadau cyflym mewn 48 awr.  Mae’r prawf wedi’i gynllunio i helpu clinigwyr i wahaniaethu rhwng cleifion sydd â gwahanol raddau o risg o ganser y coluddyn, gan flaenoriaethu cleifion risg uwch i gael diagnosis pendant a thriniaeth yn gynt.

Ar sail astudiaethau prawf clinigol, mae gan y prawf CanSense-CRC y budd ychwanegol posibl o leihau’r gofynion am ddiagnosis colonosgopi mwy ymledol o 65%. Byddai’r gostyngiad hwn yn lleihau’r baich ariannol ar y GIG yn sylweddol, gydag amcangyfrif* o arbedion cost posibl o £250M y flwyddyn drwy ostyngiad mewn colonosgopïau, ac arbedion cost pellach yn sgil gostyngiad mewn gofal canser hwyr.

Mae’r prawf cyflym, rhad hwn sydd â’r gallu i dyfu, ar gyfer diagnosis cynnar o ganser y coluddyn, yr ail ganser mwyaf cyffredin yn fyd-eang, yn defnyddio modelu seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial (AI). Mae gan Brawf CRC CanSense y potensial i weddnewid diagnosis o ganser y coluddyn mewn ffordd gadarnhaol trwy ei ganfod yn gynnar, gan wella’r canlyniadau i gleifion, a chynyddu effeithlonrwydd gweithredol o fewn y maes gofal iechyd.

Mae ATiC, sydd wedi’i leoli yn Ardal Arloesi SA1 Abertawe, yn darparu ei arbenigedd ymchwil mewn Profiad Defnyddwyr (UX) a defnyddioldeb dyfeisiau a phrosesau, i asesu technoleg prawf CanSense-CRC.

Mae Sefydliad TriTech, sydd wedi’i leoli yn Bynea, Llanelli, ac y mae ATiC yn bartner academaidd allweddol iddo, yn darparu arweiniad a chefnogaeth i’r tîm ymchwil ynghylch safonau QMS ISO13485 a bydd yn cynnal asesiad risg a gwiriadau cydymffurfio i gefnogi cyflwyno’r prawf CanSense-CRC yn rhan o’r llwybr o wneud diagnosis o ganser drwy golonosgopi yn y GIG.

Nod gwaith ATiC a TriTech yw cefnogi CanSense, cwmni deillio o Brifysgol Abertawe sydd wedi’i leoli yn Sefydliad Gwyddor Bywyd 2, i ddatblygu’n gynnyrch/gwasanaeth cyflawn at ddefnydd y GIG, a fydd yn gwella canfod canser yn gynnar ac yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gofal canser yn y DU wrth iddi ddod dros effeithiau pandemig COVID -19. Mae hyn yn golygu lleihau amseroedd aros, osgoi diagnosis hwyr ac achub mwy o fywydau yn y pen draw.

Cefnogir y prosiect cydweithredol hwn, a gwblheir ym mis Ebrill 2025, gyda chyllid gan asiantaeth arloesi genedlaethol y DU, Innovate UK, sy’n cefnogi arloesedd a arweinir gan fusnesau ym mhob sector, technoleg a rhanbarth yn y DU.

Dywedodd Dr Fatma Layas, Cymrawd Arloesi ATiC: “Mae ATiC yn gweithio gyda CanSense i ddarparu arbenigedd allanol ynghylch asesu defnyddioldeb dyfeisiau technoleg prawf CanSense-CRC.  Y tri grŵp defnyddwyr allweddol sy’n rhan o’n hasesiad yw’r clinigydd neu’r meddyg teulu sy’n gofyn am y prawf ac yn gweithredu ar y canlyniad; y fflebotomydd sy’n cymryd y sampl gwaed; a thechnegydd labordy CanSense sy’n cynnal y prawf.

“I ddechrau, mae ATiC yn ymgymryd â gweithgaredd ymchwil gyda’r grwpiau hyn i archwilio a deall anghenion a disgwyliadau defnyddwyr mewn perthynas â thechnoleg y prawf, gan ddefnyddio dulliau gan gynnwys grwpiau ffocws, cyfweliadau lled-strwythuredig, ac astudiaethau arsylwadol.”

“Yn yr astudiaethau arsylwadol, rydym yn defnyddio offer a galluoedd ymchwil ATiC, sydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys Labordy Arsylwi Ymddygiadol Noldus, systemau asesu Observer XT a FaceReader; Systemau Cipio Clyweledol, systemau tracio llygaid Tobii Pro; a Monitro Ffisiolegol, gan ddefnyddio system monitro gweithgaredd yr ymennydd blaen Utilize Artinis OctoMon (fNIRS),” ychwanegodd Tim Stokes, Cymrawd Arloesi ATiC.

“Trwy ddefnyddio’r dulliau a’r offer hyn, ein nod yw darparu asesiad manwl a gwerthfawr o brofiad y defnyddiwr sy’n gysylltiedig â’r prawf CanSense-CRC, gan gyfrannu yn y pen draw at fireinio a gwella’r broses brofi.”

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Pennaeth Arloesedd a Chyfarwyddwr Clinigol Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac ATiC: “Mewn geiriau syml, mae prawf CanSense-CRC sy’n dychwelyd canlyniad risg uchel yn dangos tebygolrwydd uchel o bresenoldeb canser y coluddyn neu adenoma datblygedig (polyp yn y coluddyn), a ystyrir yn rhagflaenydd iddo. Yna bydd y claf yn cael ei atgyfeirio ar gyfer colonosgopi blaenoriaeth uchel i gadarnhau neu ddiystyru’r diagnosis.

“Mae prawf CanSense-CRC sy’n dychwelyd canlyniad risg isel yn dangos tebygolrwydd isel o bresenoldeb canser y coluddyn neu adenoma datblygedig, a bydd y claf yn cael ei atgyfeirio ar gyfer colonosgopi blaenoriaeth is i gadarnhau neu ddiystyru’r diagnosis.

“Bydd y newid hwn i lwybr diagnostig canser y coluddyn yn cael ei dreialu mewn cydweithrediad â dau fwrdd iechyd yng Nghymru, i ddarparu perfformiad clinigol a thystiolaeth o economeg iechyd i’w dadansoddi.

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o sut y gall byrddau iechyd, y byd academaidd a chwmnïau weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a gwerthuso technolegau arloesol, gan sicrhau gwell canlyniadau i gleifion.”

Dywedodd Dr Adam Bryant, Prif Swyddog Gweithredol CanSense: “Mae CanSense yn canolbwyntio’n drwm ar drawsnewid canlyniadau a newid bywydau pobl trwy ganfod canser y coluddyn yn gynnar. Er mwyn llwyddo i’r eithaf yn hyn o beth, rydym yn ymwybodol ei bod yn rhaid i ni gael y Prawf CanSense-CRC i ddwylo clinigwyr a meddygon teulu; po gynharaf y gallwn gyflawni hyn, y cynharaf y gallwn honni ein bod wedi cynorthwyo’r GIG i adnabod cleifion canser risg uchel a blaenoriaethu eu taith ddiagnostig/triniaeth.

“Gallai’r prawf gwaed syml a chyfarwydd hwn, gan ddefnyddio biopsi hylifol, alluogi’r GIG i weithredu’n fwy effeithlon gydag arbedion cost uwch. Mae gweithio ochr yn ochr ag ATiC a TriTech o fewn y prosiect hwn yn rhoi cyfle i gael barn ac ysbrydoliaeth fwy arbenigol. Mae cydweithredu â phwrpas cyfunol yn bleser ac yn fudd; gan ein helpu i oresgyn y rhwystrau technolegol a rheoleiddiol er mwyn cael CanSense i’r farchnad yn gyflym.”