Dyfeisiau sterileiddio aer uwchfioled C (UVC) fel strategaeth i leihau’r risg o drosglwyddo yn yr aer

Mae’r Athro Chris Hopkins wedi cynnal astudiaeth, ar y cyd â chyd-awduron, i ddeall a yw dyfeisiau sterileiddio aer UVC yn strategaeth effeithiol i leihau’r risg o drosglwyddo yn yr aer mewn ysbytai.

Arweiniodd ail don pandemig SARS-CoV-2 at gynnydd aruthrol mewn derbyniadau i’r ysbyty, ac o ganlyniad i hyn ystyriodd timau uned therapi dwys ehangu i’r wardiau i reoli cleifion sy’n ddifrifol wael. Gofynnodd y timau am adolygiad brys o ddichonoldeb, effeithiolrwydd a diogelwch dyfeisiau sterileiddio aer UVC er mwyn lleihau hyd y cyfnod glanhau gofynnol rhwng triniaethau cleifion ar gyfer system awyru yr ystafell.

Yn rhan o’r astudiaeth, cyflwynwyd 7 uned UVent Mansfield Pollard ar ward SARS-CoV-2 yn Ysbyty Llwynhelyg, Gorllewin Cymru a lleolwyd sterilyddion UVC yn strategol ym mhob un o’r ardaloedd ag un gwely, pedwar gwely a phum gwely gyda chyfanswm maint yr ystafelloedd yn llai na 50m3.

Dangosodd canfyddiadau cychwynnol y timau clinigol lleol fod: y systemau’n dawel i’w rhedeg ar ddau osodiad (normal a hybu); y gallai staff barhau i weithio yn y cilfachau heb effeithio ar staff nyrsio o’u cwmpas; roedd yr ergonomeg yn dda, a gallai cleifion gysgu’n gyfforddus arnynt. Yn gyffredinol, teimlai’r staff nyrsio fod yr unedau wedi gwella ansawdd yr aer ar y ward ac roeddent yn gresynu nad oedd rhai ganddynt ar ddechrau’r pandemig. Yr unig anfanteision oedd nad oeddent yn gallu rhoi cyngor ar ddilysu peirianyddol a bio-ddilysu a bod cydymffurfio yn aneglur o ran rheoleiddio yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Sefydlwyd grŵp arbenigol Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) i fodelu dynameg y llif mewn ystafell driniaeth ddeintyddol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Menywod a Phlant Birmingham i weld a oedd gwelliant mewn aer glân ar ôl cyflwyno sterilyddion UVC. Mae canlyniadau’r astudiaethau hyn i’w gweld drwy ein tudalen astudiaeth achos.

Canfu effaith gyffredinol y prosiect fod modelu CFD yn awgrymu gwelliant sylweddol mewn ‘aer glân’ ar ôl cyflwyno sterilyddion UVC, ac mae’n ymddangos bod gwaith cynnar gyda dull canfod PCR ar gyfer SARS-CoV-2 yn cadarnhau hyn. Gwelir y gwelliant yn oedran yr aer a ‘cymysgu aer’ pan gaiff ei roi yn y safle gorau oll, ac ni chodwyd unrhyw faterion arwyddocaol o brofion yn y byd go iawn. Ar hyn o  bryd mae  gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu canllawiau ar gyfer defnyddio dyfeisiau glanhau aer cludadwy mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol.

I gael gwybod mwy ewch i’n tudalen studiaeth achos heddiw.