Mae Her Technoleg Gofal Iechyd Sefydliad TriTech yn ddigwyddiad am ddim a fydd yn dod ag ymarferwyr proffesiynol ac academyddion gofal iechyd, a phartneriaid masnachol yn y sectorau digidol a thechnolegol ynghyd i ddatrys heriau o bob rhan o’r system iechyd a gofal yng Nghymru.

Datblygiad arloesol dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw Sefydliad TriTech.

Mae’r Her Technoleg Gofal Iechyd yn gydweithrediad rhwng Sefydliad TriTech a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Gallwch gadw lle ar-lein yma: https://sdi.click/tritech

Uchafbwynt yr Her fydd digwyddiad deuddydd ym mis Gorffennaf, lle caiff timau eu creu, syniadau eu sbarduno a chynhelir digwyddiad pitsio lle caiff ymgeiswyr gyfle i ennill cyfran o’r cyllid gwerth £80,000 i roi eich syniadau ar waith. Ariennir yr wobr ariannol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a bydd Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu yn darparu cyfraniad cyfatebol ar ffurf cymorth pwrpasol, yn amodol ar gymhwysedd y partneriaid.

Dyma sut mae’r Her yn gweithio: https://sdi.click/tritech

Rydym yn chwilio am arloeswyr i ddatrys set o heriau a gaiff eu pennu gan y panel.

Mae croeso i unrhyw un gyflwyno syniad a nodi tîm o gydweithredwyr; y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cyflwyno datrysiad ar ein tudalen we Simply Do.

Yna byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus a byddwch yn cyflwyno eich ateb/syniad ar ddiwrnod un, 14/09/21. Eich tasg chi wedyn fydd dod o hyd i gydweithredwyr, casglu aelodau eich tîm ynghyd a datrys yr Her cyn cyflwyno eich ateb terfynol wythnos wedyn, ar 23/09/21.

Mae gennym yr heriau, ac rydym yn chwilio am yr atebion.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gydweithredu â phartneriaid o’r GIG a diwydiant er mwyn datblygu atebion neu gynhyrchion newydd a all gael effaith gadarnhaol ar y sector iechyd a gofal yng Nghymru.

Derbynnir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg.

Rydym yn annog amgylchedd anffurfiol a diogel i feithrin meddylfryd arloesol ac atebion creadigol.

Mae’r digwyddiad deuddydd hwn yn gydweithrediad rhwng Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gyda chymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru.

Caiff manylion pellach ac agendâu ar gyfer pob cam o’r digwyddiad eu rhannu’n nes at y dyddiad. Gallwch e-bostio a.j.evans@swansea.ac.uk os oes gennych gwestiynau.