Enillodd yr Athro Chris Hopkins o’n Sefydliad TriTech wobr Ymchwil ac Arloesi neithiwr yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd y Prif Swyddog Gwyddonol am ei wasanaeth i wyddoniaeth gofal iechyd.
Roedd y gwobrau, a gafodd eu cynnal yng nghynhadledd y Prif Swyddog Gwyddonol yn ystafelloedd De Vere Grand Connaught yn Llundain, yn dathlu cyfraniadau a chyflawniadau’r gweithlu gwyddorau gofal iechyd a’r effaith y maent yn ei chael ar ganlyniadau cleifion. Roedd y gwobrau’n hyrwyddo astudiaethau achos ysbrydoledig o wella ansawdd, partneriaethau arloesol, a darparu gwasanaethau arloesol
Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, sy’n gweithio fel Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Arloesi a’r Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae’n fraint bod yn fuddugol yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd y Prif Swyddog Gwyddonol ym maes Ymchwil ac Arloesi. Yn TriTech ac Arloesi rydym yn ymfalchïo yn y gwaith o ymgymryd ag ymchwil arloesol ac arloesi sy’n datblygu datrysiadau gofal iechyd i wella canlyniadau cleifion.
Diolch i’r timau Arloesi a TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, Prifysgol Abertawe a’n holl bartneriaid a chydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus, na fyddai llwyddiant y wobr hon wedi bod yn bosibl hebddynt”.
Yr Athro Chris Hopkins wnaeth dderbyn y wobr Ymchwil ac Arloesi.
Mewn erthygl gan y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (IPEM), dywedodd Robert Farley, Llywydd IPEM:
“Am noson wych i arddangos gwyddor gofal iechyd mewn ffiseg gyffredinol a meddygol a pheirianneg glinigol yn benodol. Rwy’n hynod falch dros ein haelodau a enillodd wobr.”