Ngwobrau Innovate: Sefydliad TriTech

Mae Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Innovate yn y categori ‘Gwobr System Iechyd Arloesol y Flwyddyn’.

Roedd y ceisiadau o safon uchel iawn gyda bron i 200 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn deg categori. Nododd y beirniaid wrth werthuso’r ceisiadau y gwaith nodedig ac ysbrydoledig sy’n digwydd ac maent wedi dewis Sefydliad TriTech yn un o’r goreuon yn y categori.

Dywedodd Pennaeth Sefydliad TriTech, yr Athro Chris Hopkins: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ein dewis i fod yn y rownd derfynol ar gyfer System Iechyd Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau Innovate y DU 2022. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a diolch o waelod calon i Gydffederasiwn y GIG, AHSN Network a’r Beirniaid.”

Bydd yr enillydd a’r sawl a gymeradwyir yn fawr yn eich categori gwobr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ym mis Medi 2022.

I gael gwybod mwy ewch yma.