Mae Menter Canser Moondance wedi dyfarnu ychydig dros £400,000 i saith prosiect arloesol ar draws gogledd a gorllewin Cymru i wella gwasanaethau canser.
Dyfarnwyd dros £200,000 i dimau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer amrywiaeth o brosiectau arloesol – yn cynnwys y gwaith o dreialu llwybr diagnosis newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint y gall cleifion ei ddefnyddio’n uniongyrchol er mwyn lleihau’r pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu a threialu ap delweddu 3D. Dyfarnwyd y £200,000 sy’n weddill i brosiectau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dyfarnwyd rhan o’r cyllid i Sefydliad TriTech i ddatblygu offeryn deallusrwydd artiffisial sydd â’r potensial i leihau camddiagnosis canser y prostad yn sylweddol.
Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, yn 2020, fod diagnosis o ganser y prostad yn y DU yn uwch na chanser y fron am y tro cyntaf. Canser y prostad yw’r ail achos mwyaf o farwolaeth mewn dynion yn fyd-eang, sy’n effeithio ar 1 o bob 8 dyn, gan godi i 1 o bob 4 mewn rhai grwpiau ethnig. Mae cywirdeb diagnostig amrywiol iawn o sganiau MRI yn golygu bod nifer fawr o gleifion yn cael biopsïau diangen ond poenus, ymwthiol ac sy’n aml yn newid bywydau. Mae’r platfform deallusrwydd artiffisial yr ydym yn ei ddatblygu yn gymorth diagnostig i ganser y prostad sy’n tynnu sylw’n brydlon at fodolaeth tiwmor ar sganiau MRI. Gall yr offeryn alluogi radiolegwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus yn gyflymach. Gallai hyn leihau camddiagnosis, ac felly costau a chymhlethdodau triniaeth diangen, gan hefyd greu gwell canlyniadau i gleifion.
Crëwyd Gwobrau Amser Arloesi Menter Canser Moondance yn Haf 2021 i annog a chefnogi staff ar draws gwasanaethau iechyd a gofal Cymru i fabwysiadu arloesiadau ymarferol a chlinigol i wella canlyniadau canser gydag effaith uniongyrchol – p’un ai mewn gwasanaethau canser, diagnosteg, triniaethau, technolegau galluogi neu’r gweithle. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y GIG yn anelu at wella o effaith mesurau iechyd cyhoeddus a gymerwyd yn ystod y pandemig parhaus Covid-19.
Disgwylir i bob prosiect dechrau o fewn 3 mis a chael effaith ymarferol go iawn i gleifion yn 2022.
Gwnaeth Megan Mathias, Prif Swyddog Gweithredol Menter Canser Moondance , y cyhoeddiad heddiw:
“Cawsom rai ceisiadau cyffrous o ansawdd uchel ac rydym yn falch iawn o allu ymrwymo dros £400,000 mewn cyllid i gefnogi saith syniad arloesol i wella gwasanaethau canser yn 2022.
“Ein gobaith yw bod y datblygiadau arloesol hyn yn profi’n well i gleifion, ac yn fyw effeithiol ac effeithlon hefyd – gan alluogi Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda i’w mabwysiadu i wasanaethau craidd yn 2023.
“Llongyfarchiadau enfawr i’r enillwyr. Wrth gwrs, mae’r gwaith caled yn dechrau nawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gadw mewn cysylltiad â nhw dros y flwyddyn i ddod.”
Wrth son am y wobr, dywedodd Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi partneru â Menter Canser Moondance ar y Gwobrau hyn. Rydym yn hyderus y bydd y prosiectau hyn yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion canser ledled gorllewin a gogledd Cymru.”
Gellir gweld yr erthygl hon yma hefyd.