Tynnwyd sylw at bwysigrwydd Cymru i sector gwyddorau bywyd y DU mewn dwy set o ffigurau diweddar sy’n dangos perfformiad cryf mewn agweddau allweddol ar fusnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Mae Ffigurau gan y Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS), a ryddhawyd ar 01 Rhagfyr 2022 ac sy’n cynnwys data hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol yn 2021, yn dangos twf cryf yn incwm a chyflogaeth busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae’r ffigurau allforio diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos dylanwad byd-eang cynyddol gwyddorau bywyd Cymru. Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2022, ac sy’n cynnwys data hyd at drydydd chwarter 2022, yn dangos twf sylweddol mewn allforion ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd.
Y Prif Bwyntiau:
- Mae ffigurau OLS yn dangos bod twf incwm busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru yn uwch na thwf busnesau yng ngweddill y DU. Mae’r diwydiant wedi cynhyrchu £2.62 biliwn mewn trosiant yng Nghymru – cynnydd o 12.1% ers y flwyddyn flaenorol – o’i gymharu â chynnydd o 9% yn nhrosiant busnesau gwyddorau bywyd ledled y DU fel cyfangorff.
- Mae nifer y bobl oedd yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yng Nghymru hefyd wedi cynyddu 1.9%, gan barhau â’r tuedd o dwf cyson mewn ffigurau cyflogaeth, a chadw’n wastad â’r ffigurau twf cyflogaeth a welwyd yng ngweddill y DU.
- Mae nifer y busnesau gwyddorau bywyd sy’n gweithredu yng Nghymru wedi aros yn gadarn, gyda chynnydd bach o 0.4%, ar ôl gweld gostyngiad yn nifer y busnesau mewn blynyddoedd blaenorol.
- Mae’r ffigurau allforio diweddaraf yn dangos bod nwyddau ‘Meddyginiaethol a Fferyllol’ ymhlith y 5 cynnyrch uchaf a oedd yn cael eu hallforio o Gymru. Gyda gwerth blynyddol o £1.1 biliwn, roedd yr allforion fferyllol diweddaraf wedi codi dros 30% o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Roeddwn i’n falch o weld y ffigurau diweddaraf yn dangos cryfder y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, ond doeddwn i ddim yn synnu. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi twf y diwydiant ac wedi creu amgylchedd lle gall busnesau gwyddorau bywyd ffynnu.
Fel mae’r ymateb unedig i Covid-19 wedi dangos, rydyn ni hefyd wedi gweld y diwydiant yn dod at ei gilydd go iawn, gyda busnesau a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio’n fwy effeithiol nag erioed i ddod o hyd i atebion i heriau gwirioneddol ym maes iechyd a gofal. Mae hyn wedi bod yn beth cadarnhaol iawn i gleifion ac i’r diwydiant fel ei gilydd, ac rydyn ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod wedi chwarae rhan yn hynny.
O ystyried y datblygiadau cyffrous a welsom yn 2022, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol mawr yn tyfu yng Nghymru a llawer o fusnesau newydd ac arloesol yn cael eu lansio, rwy’n credu y byddwn yn gweld tystiolaeth gryfach fyth o bŵer gwyddorau bywyd Cymru yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae Cymru wedi gweld twf sylweddol yn y sector gan gwmnïau fel QuidelOrtho, sefydliad byd-eang sy’n cynhyrchu cynnyrch gofal iechyd diagnostig arloesol gyda chyfleusterau gweithgynhyrchu ym Mhencoed; a BBI, sydd wedi’u lleoli yng Nghrymlin ac sy’n darparu gwasanaethau datblygu a gweithgynhyrchu profion imiwno-adnabod i gleientiaid ledled y byd. Hefyd, yn ddiweddar cyhoeddodd Siemens Healthineers, y cwmni technoleg feddygol byd-eang blaenllaw, gynlluniau i uwchraddio ei gyfleuster yn Llanberis, ynghyd â chreu 100 o swyddi newydd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi:
“Mae ein sector gwyddorau bywyd yn rhan hollbwysig o economi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn benderfynol o gefnogi’r sector i dyfu a ffynnu, ac mae’r canlyniadau diweddaraf hyn yn dangos bod cymorth yn wirioneddol yn dwyn ffrwyth.
“Nid yn unig mae ein cwmnïau gwyddorau bywyd yn creu ac yn darparu swyddi o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru, ond maen nhw hefyd yn datblygu cynnyrch a gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas heddiw. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni barhau i adfer ar ôl pandemig Covid, gan alluogi pobl i fyw bywydau cynhyrchiol ac iachach.”
Un stori lwyddiant yng Nghymru yw CellPath – mae’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi nwyddau traul, offer a gwasanaethau ledled y byd i’r sector patholeg gellog. Corfforwyd y cwmni ym 1990 ac mae’n gweithredu allan o’i bencadlys yn y Drenewydd, Powys. Ers hynny, mae wedi tyfu’n sylweddol i fod yn gwmni ffyniannus gyda throsiant gwerth miliynau o bunnoedd. Dywed y Cyfarwyddwr Paul Webber:
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld twf sylweddol o un flwyddyn i’r llall, wedi’i sbarduno gan ein gwerthiannau yn y DU a dramor. A ninnau wedi ein lleoli yng nghanolbarth Cymru ochr yn ochr â’n tîm o reolwyr tiriogaeth ledled y DU, rydyn ni’n gallu meithrin perthynas agos â phrifysgolion a’r GIG, ac mae’n rhoi’r cyfle i ni gael gweithlu lleol hynod o gryf, profiadol a ffyddlon. Ar ben hynny, mae’r cymorth arloesi rydyn ni wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru yn sicr wedi caniatáu i ni roi ein cynlluniau twf ar waith a phrofi’r cynnydd rydyn ni’n ei weld ar hyn o bryd.”
Yn y cyfamser, mae Llusern Scientific, sy’n arbenigo mewn diagnosteg foleciwlaidd fforddiadwy, symudol a hawdd ei defnyddio, yn un o nifer o gwmnïau gwyddorau bywyd newydd a lansiwyd yn ddiweddar yng Nghymru.
Dywedodd Emma Hayhurst, Prif Weithredwr y cwmni:
“Allem ni ddim dychmygu lansio ein busnes yn unman arall. Nid yn unig rydyn ni wedi’n hamgylchynu â llawer o arloeswyr newydd eraill, ond mae’r amgylchedd cefnogol yno ar gyfer sefydlu cwmni deillio wedi bod yn amhrisiadwy. Rydyn ni wedi cael cymorth i ddatblygu ein gwefan, casglu ein data clinigol, arddangos ein cynnyrch yn y DU ac yn rhyngwladol, datblygu cysylltiadau â chwsmeriaid ac agor ein rownd gyllido gyntaf.”
Yn ogystal â’r ffigurau diweddar, amlygwyd arwyddocâd sector gwyddorau bywyd Cymru tua diwedd y llynedd gan Ysgrifennydd Masnach y DU, Kemi Badenoch, mewn ymweliad â Chymru. Yn ystod yr ymweliad, roedd yr Ysgrifennydd Masnach wedi disgrifio Cymru fel rhywle oedd “yn hollbwysig i’n sector gwyddorau bywyd” yn ogystal â rhywle oedd yn “hybu safle’r DU fel archbŵer gwyddoniaeth”.
Gall busnesau gwyddorau bywyd sy’n gweithredu yng Nghymru (neu sy’n ystyried gwneud hynny) gael mynediad at amrywiaeth o gymorth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. O arloesi a chymorth â phrosiectau wedi’i deilwra, i gyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio, cysylltwch â’u tîm o arbenigwyr i weld beth sydd ar gael yn https://lshubwales.com/cy/innovation-enquiry-form