CATALYSE 2023: GIG Cymru, y byd academaidd, a diwydiant yn cyd-greu dyfodol technoleg iechyd

CATALYSE 2023

Cynhaliodd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant symposiwm yr wythnos hon (dydd Mercher, 25 Hydref), ar y thema Cyd-greu Dyfodol Technoleg Iechyd. Cynhaliwyd digwyddiad CATALYSE 2023 mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i Sefydliad Tritech, ynghyd â llu o siaradwyr gwadd, yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe a chafodd ei ffrydio’n fyw hefyd.

Roedd pedair sesiwn thema’r symposiwm yn cynnwys cyflwyniadau ar Gyd-greu a Phartneriaethau; Technoleg Ymgolli; Technoleg Feddygol; Technoleg Ddigidol a Data Mawr, gyda siaradwyr gwadd o sectorau iechyd ac addysg uwch Cymru, a mentrau yn y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys Bloom Standard Inc, UDA a Cyberdyne Inc, Japan.