Astudiaethau Achos

Os oes angen cymorth arnoch i ddatblygu datrysiadau
gofal iechyd arloesol neu i gael eich cynnyrch gofal
iechyd yn barod i’r farchnad, cysylltwch â ni heddiw.

Mae Tritech yn cefnogi ‘O’r labordy i erchwyn y gwely,’: Cyflymu tystiolaeth a chreu gwerth o fewn y GIG i wella dealltwriaeth, effaith a defnydd i gleifion, darparwyr gofal iechyd, a phartneriaid diwydiant.

rTMS

Mae Symbyliad Magnetig Trawsgreuanol Ailadroddus (rTMS) yn fath o dechnoleg y gellir ei defnyddio ar gyfer trin cyflyrau seiciatrig. Mae rTMS yn cynnwys cyswllt rhwng y ddyfais a phen y claf ac mae’n defnyddio anwythiad electromagnetig i ysgogi rhannau o’r ymennydd. Mae astudiaethau clinigol wedi dangos bod hyn yn effeithiol.

Innovation & Research

Rhaglen Addysg Diabetes Caergrawnt (CDEP)

Gan ddatblygu ein hanes blaenorol o arloesi, sefydlwyd Sefydliad TriTech gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wrth ystyried y polisi cenedlaethol a lleol a’r cyd-destun strategol, i gefnogi datblygu a gwerthuso technolegau gofal iechyd arloesol, sy’n cyfrannu at well canlyniadau i gleifion. Mae gwaith blaenorol y mae Hywel Dda wedi’i gefnogi yn cynnwys y canlynol.

Diabetes Kit

Defnyddio technolegau newydd i nodi biofarcwyr newydd ar gyfer cael diagnosis ar gyfer clefydau’r ysgyfaint a’u monitro (NovelTech)

Mae’r prosiect yn ymchwilio i fiofarcwyr (cemegau yng ngwaed, wrin, poer a spwtwm pobl) y gellir eu canfod cyn i gleifion ddatblygu symptomau neu fod newidiadau i’w gweld ar sganiau ysbyty a lluniau phelydr-X o’r frest. Yna, mae’r prosiect yn archwilio ymhellach sut mae newidiadau yng nghyflwr neu driniaeth person yn effeithio ar fiofarcwyr.

Blood Cells

Rhaglen E-ddysgu Rheoli Poen Cronig: Byw Bywyd Gyda Phoen. Comisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe

Mae’r prosiect yn bwriadu digideiddio ein rhaglen rheoli poen 12 modiwl effeithiol presennol, gan greu rhaglen linellol mewn fformat digidol – LMS. Bydd pob modiwl yn cynnwys addysg am boen, ymlacio, gosod nodau, gosod cyflymder ac ymarferion yn ogystal ag adnoddau ychwanegol y gallai defnyddwyr fynd atynt.

Scientist looking at a petri dish

PocketMedic

Mae PocketMedic yn blatfform digidol sy’n caniatáu i glinigwyr ym meysydd gofal sylfaenol, eilaidd neu gymunedol, anfon presgripsiynau sy’n seiliedig ar ffilm at gleifion i helpu i reoli clefydau cronig. Gellir gwylio’r rhain ar ffonau symudol, tabledi, neu gyfrifiaduron personol. Mae dros 30 o ffilmiau bellach ar gael ar gyfer math 2, math 1, beichiogrwydd a chyn-diabetes – sy’n cynnwys pob agwedd ar ofal diabetes.

Diabetes Patient

My COPD Pal

Er mwyn cefnogi hunanreoli, mewn partneriaeth â Bond Digital Health (BDH), Comisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe a chynrychiolwyr cleifion, datblygwyd ap ffôn symudol digidol a oedd yn galluogi cleifion i gymryd rheolaeth dros eu Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD).

Defnyddio fideo-gynadledda i ymestyn manteision adsefydlu yr ysgyfaint i gymunedau gwledig (VIPAR)

Mae gwasanaeth adsefydlu yr ysgyfaint yn rhaglen o ymarfer corff ac addysg ar gyfer cleifion â Chlefyd Rhwystrol yr Ysgyfaint Cronig (COPD), sy’n digwydd yn draddodiadol ddwywaith yr wythnos dros gyfnod o saith wythnos. I unigolion sydd â chyflwr cronig i’r ysgyfaint, dylai Adsefydlu Ysgyfaint fod yn rhan annatod o’u gofal, ac amlinellodd Llywodraeth Cymru ddisgwyliad y byddai pob claf cymwys yn cael cynnig gwasanaethau o’r fath.

System ddiffibrilio yn y cwmwl yn ystod COVID-19

Mae mwy na 30,000 o ataliadau ar y galon yn digwydd y tu allan i’r ysbyty (OHCAs) yn y DU bob blwyddyn ac yn gyffredinol, dim ond 1 o bob 10 sy’n goroesi yn y DU. Mae pob munud heb adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) a diffibrilio yn lleihau’r siawns o oroesi hyd at 10%, ond y gall perfformio CPR fwy na dyblu’r siawns o oroesi mewn rhai achosion (ffibrilio fentriglaidd).

Dyfeisiau sterileiddio aer UVC fel strategaeth i leihau’r risg o drosglwyddo clefyd drwy’r awyr

Yn ystod ail don pandemig SARS-CoV-2, cynyddodd nifer y cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yn raddol ledled y DU o gyfartaledd wythnosol o 122 (1 Medi 2020) hyd at 2,037 (17 Rhagfyr) gan gyrraedd uchafbwynt o 4,232 o achosion yr wythnos ar 9 Ionawr 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd y GIG i gyflawni gyda derbyniadau eraill nad oeddent yn ymwneud â COVID a llawdriniaethau dewisol.

Sars Virus
TriTech Sefydliad
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.