Mae Keir Lewis yn Athro Meddygaeth Anadlol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arweinydd clinigol ar gyfer TriTech, Arloesedd a’r Gwasanaethau Anadlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y DU. Mae Keir yn aelod o bwyllgorau a thasgluoedd ymchwil amrywiol mewn Cymdeithasau Thorasig ym Mhrydain ac Ewrop ac yn Arweinydd Arbenigedd Meddygaeth Anadlol dros Gymru ar Rwydwaith Ymchwil Glinigol y DU.

Keir yw Cyfarwyddwr Meddygol Arloesedd Anadlol Cymru ac mae’n Brif Ymchwilydd neu’n gydweithredwr ar sawl treial yn y DU ar glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, rhoi’r gorau i smygu ac yn fwy diweddar, COVID. Mae wedi darlithio ledled y byd, wedi cyhoeddi dros 90 o bapurau a 3 gwerslyfr ac wedi cynghori Llywodraethau amrywiol, NICE a’r HTA ar dechnolegau, rhoi’r gorau i smygu a chlefydau cronig.

Ar ôl ymuno â’r GIG gyda phrifysgolion lleol a chwmnïau biofeddygol / biodechnegol, mae wedi helpu i ddenu dros £22 miliwn o gyllid ac wedi ennill gwobrau cenedlaethol gan gynnwys “Arloesedd yn y GIG”, “Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd” a “Cydweithredu â Diwydiant Cenedlaethol”. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol mewn dau gwmni ac yn Gyd-sylfaenydd a Chadeirydd yr elusen WORLD.