Mae Chris Hopkins yn Athro er Anrhydedd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru, yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth TriTech ac Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Chris yn Beiriannydd Siartredig gyda’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, yn Gymrawd ac asesydd gwyddonol allanol gyda’r Academy for Healthcare Science, yn arholwr Asesiad Annibynnol o Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion dyfeisiau meddygol.
Mae wedi ysgrifennu papurau amrywiol ac yn gydweithredwr ar sawl prosiect ymchwil parhaus. Gan weithio gyda phrifysgolion lleol a chwmnïau technoleg feddygol, mae ganddo dros 24 mlynedd o brofiad yn y GIG. Mae diddordeb ymchwil Chris ym maes deallusrwydd artiffisial – gyda phwyslais penodol ar systemau gofal iechyd, ac mae’n goruchwylio nifer o brosiectau doethuriaeth ar hyn o bryd.