Mae Dr Sean Jenkins yn Athro Cysylltiol mewn Dylunio Diwydiannol yn PCYDDS. Ac yntau’n gyn Brif Ddarlithydd a chyn Bennaeth yr Ysgol Dylunio a’r Celfyddydau Cymhwysol, mae bellach yn arwain y gweithgarwch ymchwil, datblygu ac arloesi yn ATiC.

Diddordeb ymchwil cyfredol Sean yw cymhwyso metrigau ymddygiadol a ffisiolegol i astudio profiad defnyddwyr mewn gofal iechyd a llesiant. Mae gan Sean radd mewn Dylunio 3D, gradd Meistr mewn Dylunio Diwydiannol a PhD mewn “Mesur Profiad Defnyddwyr yn Thermograffig yn ystod Rhyngweithio rhwng Pobl a Chynnyrch”. Yn ei draethawd PhD archwiliodd effeithiolrwydd Thermograffeg Isgoch fel dull gwrthrychol, di-gyswllt ar gyfer mesur profiad defnyddwyr yn ystod rhyngweithio rhwng pobl a chynnyrch.

Yn ogystal â hyn, mae diddordebau ymchwil academaidd a phroffesiynol Sean yn cynnwys pob agwedd ar ddamcaniaeth, ymchwil ac arfer dylunio diwydiannol, gyda diddordeb addysgu ac ymchwil penodol mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (Braslunio 2D i Fodelu, Delweddu a Phrototeipio Arwyneb 3D) a Ffactorau Dynol (mesur Rhyngweithio gyda Chynnyrch, Defnyddioldeb a Phrofiad Defnyddwyr). Mae’n Thermograffydd Isgoch Ardystiedig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.