Pennaeth Menter, Naomi yw arweinydd Partneriaethau Menter ac Arloesi yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ac yn Uwch Ddarlithydd Arloesi ac Ymgysylltu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Naomi yw Cyd-Brif Ymchwilydd y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, yn rhan o’r rhaglen Garlam gwerth £24 miliwn a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Hwb Gwyddor Bywyd Cymru a Phrifysgolion Cymru.

Wrth arwain tîm amlddisgyblaeth o 12, mae Naomi’n cefnogi datblygiad a chyflawniad prosiectau arloesi. Naomi hefyd yw cyd-gadeirydd y rhaglen Ymchwil, Menter ac Arloesi ARCH yn rhanbarthol ac yn Arweinydd Menter ac Arloesi y prosiect Campysau Gwyddor Bywyd a Llesiant gwerth £15 miliwn sy’n rhan o Fargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.