Dr Matthew Lawrence yw Dirprwy Bennaeth TriTech ac Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y DU. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ymchwil meddygol. Y maes y mae Matthew wedi canolbwyntio arno fwyaf yn ystod ei yrfa ymchwil fu troi gwybodaeth a dealltwriaeth dechnegol o feysydd peirianneg a’r gwyddorau ffisegol yn arloesedd technoleg gofal iechyd.

Yn rhan o’i waith ymchwil, mae Matthew wedi gweithio mewn amgylchedd clinigol – gan bontio’r bwlch rhwng iechyd, gwyddoniaeth, a pheirianneg. Canolbwyntiodd ei brif waith ymchwil ar ddatblygu technolegau newydd ar gyfer mesur haemostasis a llif gwaed o ran iechyd a chlefydau, yn arbennig yng nghyswllt sut mae nodweddion ceulo yn cael eu newid gan driniaeth a datblygiad clefyd llid fasgwlaidd. O ganlyniad, mae wedi ysgrifennu amrywiaeth eang o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid ar sawl gwahanol gyflwr clefyd.

Yn ystod ei yrfa, mae Matthew wedi datblygu arbenigedd mewn dylunio astudiaethau, rheoli prosiectau a dadansoddi ystadegol. Hefyd, mae wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o’r prosesau rheoleiddio a llywodraethu ym maes ymchwil iechyd yn y DU ac ef yw Cadeirydd presennol pwyllgor moeseg ymchwil Cymru REC 6 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.