Dr Daniel Harris yw ein Fferyllydd Academaidd Clinigol a’n Fferyllydd Gwasanaethau Cardiaidd arweiniol. Mae gan Daniel dros 20 mlynedd o brofiad clinigol, yn bennaf ym maes cardioleg a rheoli strôc, a gyrfa ymchwil helaeth yn canolbwyntio ar reoli risg cardiofasgwlaidd ac atal clefydau.
Ar hyn o bryd mae Daniel yn cyflawni prosiect ‘Iechyd Poblogaeth y Genhedlaeth Nesaf yn GIG Cymru. Partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe.’ Mae’r prosiect hwn yn dechrau gyda setiau data gofal iechyd cysylltiedig o fewn cronfa ddata SAIL i ddisgrifio tueddiadau o ran cyflwyno clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru a nodi cyfleoedd ar gyfer rheoli clefydau’n well. Ail gam y prosiect hwn yw gweithredu a gwerthuso llwybr gofal newydd gyda’r nod o wella rheolaeth ffactorau risg cardiofasgwlaidd mewn cleifion risg uchel.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae Daniel yn ymwneud ag astudiaethau epidemiolegol cardiofasgwlaidd lluosog, mae’n oruchwyliwr PhD ac yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe.