Mae cywaith rhwng Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cwblhau gwerthusiad cenedlaethol o Becyn Cymorth Anadlol ICST – llwyfan digidol sydd wedi’i greu i gefnogi pobl sy’n byw gydag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ac i helpu i safoni gofal anadlol ledled Cymru.

Bu’r gwerthusiad, a gomisiynwyd gan Brif Weithredwyr GIG Cymru, yn edrych ar ba mor dda mae’r pecyn cymorth yn gweithio ar gyfer cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a’r system iechyd yn ehangach. TriTech oedd yn darparu’r arweinyddiaeth glinigol a’r gwaith dadansoddi ansoddol a meintiol, tra bod tîm ATiC Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnal gwaith profi ar brofiad y defnyddiwr ac ymchwil ddwyieithog yn canolbwyntio ar bobl, gan sicrhau bod y pecyn cymorth yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau bob dydd.

Rhan allweddol arall o swyddogaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant oedd cyfraniad ei hacademyddion seicoleg, a fu’n defnyddio modelau newid ymddygiad sefydledig i archwilio sut mae’r pecyn cymorth yn dylanwadu ar hyder, cymhelliant a galluogrwydd ymhlith cleifion o ran rheoli eu cyflyrau. Drwy gyfuno gwybodaeth glinigol â’r agwedd ymddygiadol hon, roedd y gwerthusiad yn cynnig ddealltwriaeth ddyfnach o’r ffordd mae’r pecyn cymorth yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ac unigolion yng nghyd-destunau’r byd go iawn.

Mae’r agwedd gydweithredol hon yn dangos sut gall byrddau iechyd a phrifysgolion gydweithio i asesu offer digidol sydd eisoes yn cael eu defnyddio cyn iddynt gael eu mabwysiadu’n ehangach, yn ôl Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.