“Mae arloesiadau ym maes gofal iechyd sydd wir yn torri tir newydd yn cyflwyno’r cyfle i ni gael dylanwad buddiol sylweddol ar ein cleifion, ein system gofal iechyd a’n personél, a thrwy hynny ail-lunio gofal iechyd ar gyfer y dyfodol. Mae’n ganolog i egwyddorion y sefydliad hwn i wneud popeth y gallwn i feithrin a chynorthwyo datblygiadau o’r fath.”
– Yr Athro Phil Kloer, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Sefydliad TriTech yn fenter Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a sefydlwyd ym mis Medi 2020. Mae TriTech yn cynnig gwasanaeth cymorth unigryw i bartneriaid clinigol, academaidd a masnachol yn y GIG.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i tua 384,000 o bobl ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yng Nghymru, y DU. Mae’n darparu gwasanaethau acíwt, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu trwy ysbytai cyffredinol a chymunedol, canolfannau iechyd, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr, optometryddion a safleoedd eraill.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi ei Strategaeth Ymchwil ac Arloesi, a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau clinigol arloesol i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r strategaeth, sy’n rhan o strategaeth iechyd a gofal hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda, yn ceisio gwella proffil, ansawdd a chyfanswm y gweithgarwch ymchwil ac arloesi o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae gwerthoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi’u hymgorffori yn yr holl waith a wneir gan Sefydliad TriTech, gan roi pobl wrth wraidd popeth a wnawn ac ymdrechu gyda’n gilydd i ddarparu a datblygu gwasanaeth rhagorol i gleifion ym mhob man.