Ymchwil drosi
Mae ein tîm Ymchwil a Dylunio wedi’i neilltuo i gefnogi eich taith trwy’r cyd-destun arloesi gofal iechyd. Rydym yn cynnig:
- Un Pwynt Mynediad : Gwasanaethau ymchwil glinigol symlach ar gyfer Dylunwyr a gweithgynhyrchwyr biofferyllol a Med-Tech.
- Rheoli Llwybrau Arloesi: Cymorth o’r dechrau i’r diwedd o ran nodi anghenion heb eu diwallu, dylunio cysyniadau, creu prototeipiau, profion clinigol, i economeg iechyd.
- Trosi Cynnyrch: Cyfannu cynhyrchion sefydledig a thechnolegau meddygol arloesol i leoliadau clinigol yn y byd go iawn.
- Ymgynghoriaeth Arbenigol: Gwasanaethau rheoleiddio ac ymgynghori arbenigol i gefnogi dulliau gofal iechyd sy’n seiliedig ar ganlyniadau.
- Un Safle i Gymru: Gwasanaethau rheoli ymchwil a gwerthuso aml-safle effeithlon, cyfannol.

Gwerthusiadau Byd Go Iawn
Mae ein tîm yn deall yr effaith y gall atebion a chanlyniadau gofal iechyd arloesol eu cael ar gleifion a’r sector gofal iechyd ehangach a’r gwir werth y gallant eu cynnig iddynt. Mae gennym dîm arbenigol sy’n gallu tystio’r effaith y mae arloesiadau yn ei chael ar ganlyniadau cleifion, gan ddefnyddio mesurau canlyniadau a phrofiad cleifion sydd wedi’u hachredu’n rhyngwladol (Mesuriadau Profiad a Adroddir gan Glaf – PREMS a Mesuriadau Canlyniad a Adroddir gan Glaf – PROMS ).
Mae ein tîm arbenigol yma i’ch cefnogi gyda:
- Datrysiadau Gofal Iechyd Arloesol: Datblygu arloesiadau gofal iechyd ar flaen y gad gyda ffocws cryf ar Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth (VBHC) ac Economeg Iechyd.
- Dadansoddi a Chostio Canlyniadau: Darparu dadansoddiad manwl a chostio i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.
- Gwasanaethau Effeithlon a Phwrpasol: Darparu gwasanaethau wedi’u datblygu’n bwrpasol i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’ch cwmni a’n cleifion, wrth leihau costau a gwella canlyniadau iechyd.
Rydym yn cydweithio â datblygwyr i’w helpu i ddeall sut mae gwneud y gorau o’u harloesiadau i gyflawni’r canlyniadau sydd fwyaf pwysig i gleifion a’r cyhoedd.

Cyngor Strategol
Profiadol ac amrywiol: Mae gan ein tîm brofiad helaeth a phortffolio amrywiol, sy’n ein galluogi i gefnogi amrywiaeth eang o ffrydiau gwaith ym maes ymchwil arloesol, gwerthuso a gwyddoniaeth reoleiddio.
Canolfan Ragoriaeth: Fel canolfan ragoriaeth flaenllaw ym meysydd gwyddoniaeth ac arloesi rheoleiddio, rydym yn cynnig arbenigedd sy’n arwain y diwydiant o ran dylunio a sefydlu astudiaethau, nawdd astudiaethau, darparu ymchwil a gwerthuso, sicrhau ansawdd, a dadansoddi. Rydym yn cydweithio’n agos â sefydliadau academaidd o fri yng Nghymru, gan asesu effeithiolrwydd arloesi mewn cymwysiadau yn y byd go iawn.
Cymorth Arbenigol: Gall ein tîm arbenigol eich cynorthwyo fel a ganlyn:
- Cyflwyno grantiau, cynllunio ac ysgrifennu adrannau perthnasol o geisiadau grant
- Treialon ac ymchwiliadau clinigol arloesol
- Gwerthuso a chyflwyno ymchwil ac ymgynghori
- Defnyddio dulliau byd go iawn i ddatrysiadau gofal iechyd arloesol
- Mabwysiadu arloesedd
- Fframweithiau dylunio a sefydlu astudiaethau ymchwil
- Deall gofynion rheoleiddiol
Mae ein Sefydliad yn gwasanaethu fel cynghorydd dibynadwy i’w bartneriaid masnachol, gan roi dealltwriaeth strategol sy’n ysgogi arloesedd a datblygiadau ym maes gofal iechyd.
