Rydym yn awyddus i sicrhau cefnogaeth ychwanegol gan y cyhoedd i helpu i wella ein gwasanaethau a chynnal safonau lefel diwydiant. I ddysgu mwy am sut y gallwch gymryd rhan yn ein treialon clinigol, llenwch y ffurflen isod a bydd rhywun o’n tîm yn cysylltu â chi.

Hysbysiad preifatrwydd
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych chi’n ei chyflwyno, neu wedi’i chyflwyno, i’n galluogi ni i weithredu unrhyw gamau dilynol.
Mae mwy o wybodaeth am eich hawliau Diogelu Data yn unol â darpariaethau Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018, er enghraifft sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, pa mor hir y mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw, neu sut yr ydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, ar gael yn: Hysbysiadau preifatrwydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).
Trwy ddefnyddio’r ffurflen hon, rydych yn cytuno bod eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.