Cefndir:
Mae Ysgogiad Magnetig Trawsgreuanol Ailadroddus (rTMS) yn fath o dechnoleg y gellir ei defnyddio wrth drin cyflyrau seiciatrig. Mae rTMS yn cynnwys cyswllt rhwng y ddyfais a phen y claf ac yn defnyddio anwythiad electromagnetig i ysgogi rhannau o’r ymennydd. Mae astudiaethau clinigol wedi dangos bod hyn yn effeithiol. Mae’r dechnoleg hon yn anfewnwthiol, mae ysgogiad yr ymennydd yn digwydd trwy’r benglog felly nid oes angen i’r claf fod o dan anesthetig. Yn dilyn triniaeth, gall claf yrru ei hun adref.
Benthycodd Magstim®, cwmni o Gymru sy’n cynhyrchu technoleg rTMS, un o’u dyfeisiau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDUHB), ar gyfer gwerthusiad o’r gwasanaeth iechyd meddwl oedolion yn ysbyty Glangwili (YCLl). Cynhaliwyd y gwerthusiad hwn dros gyfnod o dri mis a daeth i ben ar ddiwedd mis Ebrill 2022. Y rhesymeg y tu ôl i’r gwerthusiad hwn oedd bod ymchwil gyhoeddedig yn dangos bod rTMS yn ddiogel ac yn effeithiol, ond bod angen gwneud mwy o waith o ran cost effeithiolrwydd a scalability o fewn y GIG. Nid yw’r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio’n glinigol ar hyn o bryd o fewn unrhyw un o fyrddau iechyd GIG Cymru.
Nod y gwerthusiad hwn oedd deall y ffactorau a allai fod yn bwysig i sefydliadau sy’n ystyried a ddylid mabwysiadu rTMS ai peidio a hefyd archwilio’r potensial ar gyfer cyflwyno technoleg rTMS yn genedlaethol yng Nghymru. Fel rhan o’r gwerthusiad gwahoddwyd 10 claf ag iselder sy’n gwrthsefyll cyffuriau i dderbyn 30 o driniaethau rTMS, pob un yn para 37 munud yr un dros gyfnod o 6 wythnos.
Fel rhan o’r gwerthusiad, gofynnwyd dau gwestiwn:
A ellir gweithredu rTMS yn ddiogel ac yn gyflym fel gwasanaeth o fewn GIG Cymru? A yw’n dderbyniol i gleifion a staff?
Canlyniadau:
Cwblhaodd pob un o’r 10 claf a gymerodd ran yn y gwerthusiad bob triniaeth. Gwelwyd newidiadau cadarnhaol yn y rhan fwyaf o’r cleifion a nodwyd y newidiadau hyn yn y sgorau clinigol a chan y cleifion eu hunain neu aelodau o’r teulu. Mae angen mwy o ddata ynghylch effeithiolrwydd clinigol hirdymor ac i asesu a arbedir costau mewn meysydd eraill. Byddai dadansoddiad economaidd a phrosiectau ymchwil i gymwysiadau ychwanegol o rTMS yn helpu i gyfiawnhau costau’r ddyfais a rhedeg gwasanaeth o’r fath.
Dywedodd y rhai a oedd wedi mynd trwy driniaethau therapi electrogynhyrfol (ECT) o’r blaen, sy’n ffurf ymledol o therapi sy’n gofyn am anesthesia, fod rTMS yn llawer mwy ffafriol. Roedd y rhan fwyaf o gleifion yn parhau i fod yn obeithiol o driniaethau trwy gydol y gwerthusiad ac wedi aros yn obeithiol ac yn gadarnhaol tuag at ddiwedd y triniaethau hyd yn oed os nad oeddent yn sylwi ar y gwelliannau hyn ynddynt eu hunain. Mae’n debyg bod y sylw a’r gofal mawr a gawsant gan y tîm clinigol wedi chwarae rhan fawr yn yr adborth cadarnhaol gan gleifion.
Profodd y mwyafrif o gleifion flinder o’r triniaethau, a phrofodd sawl un lefel o boen neu symudiadau anwirfoddol. Dim ond ychydig o gleifion oedd yn cael problemau yn mynychu’r apwyntiadau yn rheolaidd, ac roedd y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan amlder/cyfanswm y triniaethau mewn cyflogaeth amser llawn. Fodd bynnag, er gwaethaf unrhyw anghysur neu anghyfleustra a achoswyd, cwblhaodd pob claf ei driniaeth a dim ond nifer fach o driniaethau unigol a gollwyd.
Roedd gan y staff a oedd mewn cysylltiad uniongyrchol â’r cleifion yn ystod triniaethau agweddau cadarnhaol tuag at y ddyfais a’i photensial clinigol. Roedd diddordeb gan staff mewn defnyddio’r dechnoleg ar gyfer ymchwil pellach i bennu effeithiolrwydd protocolau eraill i leihau hyd y driniaeth a’i brofi ar gyflyrau neu symptomau eraill.
Ar hyn o bryd y camau nesaf yn dilyn y gwerthusiad hwn yw dadansoddiad economaidd cadarn a datblygiad achos busnes sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru (LSHW). Os yw’r achos busnes yn dangos budd cost posibl i’r bwrdd iechyd, yna bydd hyn yn cefnogi ymchwil pellach gyda dyfeisiau rTMS o fewn BIPHDd. Mae archwilio ymwybyddiaeth glinigol a’r angen am y dechnoleg hon ac ymchwil i gymwysiadau clinigol ychwanegol yn gamau nesaf pwysig.