Cefndir:

Mae PocketMedic yn blatfform digidol sy’n caniatáu i glinigwyr mewn gofal sylfaenol, eilaidd neu gymunedol anfon presgripsiynau seiliedig ar ffilm at gleifion i helpu i reoli clefydau cronig. Gellir gwylio’r rhain ar ffonau symudol, tabledi, neu gyfrifiaduron personol. Mae dros 30 o ffilmiau bellach ar gael ar gyfer math 2, math 1, cyfnod beichiogrwydd a chyn-diabetes – sy’n ymdrin â phob agwedd ar ofal diabetes. Cawsant eu hymgorffori’n ddiweddar yn y Gwasanaeth Cenedlaethol Uniongyrchol Estynedig (DES) ar gyfer Diabetes yng Nghymru a chânt eu gweld gan tua 1,000 o gleifion bob mis. Dangosodd gwerthusiad cychwynnol o’r system welliant o ran rheoli clefydau fel y’i mesurwyd gan HbA1c.

Canlyniadau:

Mae gwerthusiadau pellach yn edrych ar gyn-diabetes mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yn parhau. Mae eDigital Health yn gweithio gyda’n tîm ar amrywiaeth o brosiectau yn ymwneud â diabetes, COPD, COVID-hir a lles staff mewn partneriaeth â Chomisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth.

Cafodd PocketMedic (eDigital Health), mewn cydweithrediad â Dr Sam Rice o Ysbyty’r Tywysog Philip, ganmoliaeth yn y ‘Gwobrau Ansawdd mewn Gofal Diabetes 2018’. Dr. Sam Rice yw Arweinydd Pecyn Gwaith DRU Cymru ar gyfer y thema ‘Hunanreoli Diabetes’. Mae gwobr Ansawdd mewn Gofal yn golygu bod menter wedi cael ei chydnabod gan y GIG, cleifion a diwydiant fel menter sy’n gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw â diabetes.

Dywedodd y beirniaid: “Syniad arloesol iawn i gael ffilmiau ar gael ar bresgripsiwn. Cysyniad ardderchog, wedi’i feddwl o safbwynt y cleifion ac wedi’i gyflwyno’n dda. Mae’r fideos hyn yn helpu i addysgu a hysbysu cleifion yn fwy effeithiol na dulliau traddodiadol.”