Cefndir:

I gefnogi hunanreolaeth, mewn partneriaeth â Bond Digital Health (BDH), Comisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe a chynrychiolwyr cleifion, datblygwyd ap ffôn symudol digidol a oedd yn galluogi cleifion i reoli eu Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD). Datblygwyd a phrofwyd prototeip wedi’i deilwra o’r ap, drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru (ETTP – £115,720), o fewn 2 astudiaeth a gymeradwywyd gan y CARh – Cam 1 (ID IRAS: 270736, REC ref:19/LO/1649) a Cham 2 (IRAS ID: 235302, REC ref: 1347/WA).

Canlyniadau:

Canfu astudiaethau ei fod yn dderbyniol ac wedi arwain at reolaeth well ar symptomau. Mae Bond Digital Health a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn gweithio gyda’i gilydd i fireinio’r ap ymhellach er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar les cleifion.

Cyhoeddiadau: