Cyfeiriadur Arloesedd Cymru – Wedi’i bweru gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae’r Cyfeiriadur Arloesedd yn adnodd ar-lein gwerthfawr a ddatblygwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Ei nod yw cysylltu defnyddwyr â gwybodaeth hanfodol am sefydliadau ledled Cymru sy’n mynd ati i ddatblygu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Darganfod a Chysylltu ag Arloeswyr Blaenllaw yng Nghymru

P’un a ydych chi’n chwilio am gwmnïau gwyddorau bywyd, sefydliadau iechyd neu wasanaethau cymorth arloesi, y Cyfeiriadur Arloesedd yw’r adnodd i droi ato. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys manylion am y canlynol:

  • 260+ o Gwmnïau Gwyddorau Bywyd yng Nghymru (Diwydiant)
  • Sefydliadau iechyd, yn cynnwys Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, Canolfannau Arloesi a Chyfathrebu Rhanbarthol, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac ati
  • Sefydliadau sy’n Cefnogi Arloesedd
  • Prifysgolion
  • Academïau Dysgu Dwys
  • A mudiadau trydydd sector

Mae’r cyfeiriadur yn tyfu drwy’r amser, ond nid yw’n ceisio cynnwys pob sefydliad yng Nghymru eto. Mae’r tîm yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wrthi’n gweithio i’w ehangu ac mae’n falch o groesawu gwybodaeth gan sefydliadau sydd â diddordeb mewn cael eu cynnwys.

Yr hyn sydd i’w gael yn y Cyfeiriadur Arloesedd

Mae pob rhestr yn darparu:

  • Trosolwg cryno o’r sefydliad
  • Dolen i wefan y sefydliad
  • Amlinelliad o’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig

Bydd pob sefydliad yn cael ei restru yn ôl y math o sefydliad a’i sector, a fydd yn galluogi defnyddwyr i hidlo ac i chwilio ar sail:

  • Math: Cyhoeddus, Preifat, GIG, Llywodraeth (Lleol, y DU, Cymru)
  • Sector: Gofal Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gwyddorau Bywyd, Cynhyrchion Fferyllol, Technoleg Feddygol, Iechyd Digidol, Diwydiant, Academia, Cymorth Arloesi

Pwrpas y Cyfeiriadur Arloesedd

Ein nod yw ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd i sefydliadau sy’n rhan o ecosystem arloesi fywiog Cymru a chysylltu â nhw, gan gefnogi datblygiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Cael eich Rhestru yng Nghyfeiriadur Arloesedd Cymru

Ydych chi’n sefydliad sy’n sbarduno arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Cysylltwch â ni yn hello@lshubwales.com i gael rhagor o wybodaeth am sut mae ymddangos yn y Cyfeiriadur Arloesedd.