Prosiect LUMEN yn cynorthwyo diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint

Mae prosiect LUMEN, gwasanaeth arloesol sy’n targedu rhoi diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint yng ngorllewin Cymru, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod o fudd i dros 60 o gleifion.

Menter ganser Moondance sy’n ariannu’r prosiect llinell asesu symptomau canser yr ysgyfaint (LUMEN) sy’n cynnig gwasanaeth hunan-atgyfeirio dros y ffôn i gleifion â symptomau posibl. Nod y prosiect yn y pen draw yw cynorthwyo diagnosis cynnar a gwella cyfraddau goroesi.

Dywedodd Dr Savita Shanbhag, Arweinydd Canser Meddygon Teulu:

“Rydyn ni’n credu bod galluogi unigolion i ffonio llinell ffôn LUMEN yn ein helpu ni i ganfod symptomau yn gynnar ac atgyfeirio cleifion i gael diagnosis cynnar. Rydyn ni’n ddiolchgar i fenter ganser Moondance am ariannu’r prosiect arloesol hwn.”

Mae ar gael i gleifion 40+ oed sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac mae’r llinell ffôn a arweinir gan nyrsys yn rhoi man arall i fynd am gymorth.

I ddechrau, mae’r nyrs LUMEN, arbenigwraig canser yr ysgyfaint brofiadol, yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am symptomau posibl y clefyd, fel poen yn yr ysgyfaint a bod yn fyr eu hanadl. Yn dilyn sgwrs gychwynnol, trefnir pelydr-x o’r frest i’r rhai hynny sydd â symptomau y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach. Yn dilyn hynny, bydd cleifion yn cael gohebiaeth barhaus yn dilyn eu cyswllt cychwynnol gyda’r llinell ffôn.

Ers i’r prosiect lansio ym mis Awst 2022, mae LUMEN wedi derbyn adborth cadarnhaol am fod yn llwybr “cyflym ac effeithiol” i ddiagnosis.

 

Mae gwerthusiad o ddata LUMEN wedi dangos y canlynol:

• Y symptom cychwynnol a adroddir amlaf yw peswch (gwnaeth 76% ei adrodd yn symptom cychwynnol), ac yna haemoptysis (8%).

• Mae 19% o’r defnyddwyr yn dweud eu bod yn ysmygu ar hyn o bryd, 37% yn dweud eu bod yn arfer ysmygu, a 44% yn nodi nad ydynt erioed wedi ysmygu. Gwnaeth 11% hefyd ddweud eu bod wedi’u hamlygu i asbestos.

Os ydych chi’n 40+ mlwydd oed, ag unrhyw rai o’r symptomau hyn:

• Peswch sy’n para mwy na 3 wythnos
• Colli pwysau heb geisio gwneud hynny
• Yn fyr eich anadl
• Llais crug
• Heintiau dro ar ôl tro i’r ysgyfaint
• Poen yn y frest
• Mwy blinedig nag arfer
• Colli archwaeth am fwyd
• Cyflwr ar yr ysgyfaint a’r symptomau’n newid

 

Ffoniwch y llinell asesu symptomau canser yr ysgyfaint ar 0300 3036142.

Mae’r galwadau yn gyfrinachol a’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 2pm.