Atebion gofal iechyd
arloesol wedi’u hysgogi
gennych chi

Ymchwilio a Dylunio

Caiff ein sgiliau clinigol a dylunio ymchwil eu cyfuno â phrofiad peirianneg glinigol a thechnegol, i gynnig llwybr arloesi o ddechrau’r broses i’w diwedd – angen cynnar heb ei ddiwallu, dylunio cysyniadau, prototeipio a phrofi clinigol i werthusiadau gwasanaethau byd go iawn.

Gwerthuso byd go iawn

Icon

Rydym yn deall y gwerth gwirioneddol y mae atebion gofal iechyd arloesol yn ei gynnig i gleifion. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i ddarparu atebion sy’n newid bywydau am y gost leiaf bosibl.

Icon

Rydym yn troi cynhyrchion sefydledig a thechnolegau meddygol arloesol yn ecosystem glinigol yn y byd go iawn gyda’r amcan o helpu’r cyhoedd i fyw bywydau iachach.

Icon

Trwy weithio gyda phartneriaid a chysylltiedigion sy’n arwain y diwydiant, rydym yn cynnig dull amlddisgyblaeth o ymdrin â gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth trwy gysylltiadau yn y diwydiant, arbenigedd gofal iechyd ac ymchwil ac arloesi academaidd.

Cyngor

Gan ein bod yn ganolfan ragoriaeth ym maes arloesi a gwyddoniaeth reoleiddiol, rydym yn defnyddio dull gofal iechyd sy’n seiliedig ar ganlyniadau a dadansoddeg data darganfyddiadau labordai i ddatblygu atebion technoleg gofal iechyd arloesol gyda’n partneriaid a’n cysylltiedigion trwy gefnogi gwaith ymchwil, arloesi a gwerthuso.

Y newyddion diweddaraf